Cyhoeddi sychder yn y de-ddwyrain wedi'r chwe mis sychaf ers 1976

CNC

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi statws sychder yn swyddogol ar gyfer de-ddwyrain Cymru.

Er bod rhannau o Gymru wedi cael rhywfaint o seibiant o’r tywydd sych ym mis Mehefin, gwelwyd y tywydd poeth a sych yn dychwelyd ym mis Gorffennaf, gyda de-ddwyrain Cymru’n derbyn 53% o’r glawiad misol cyfartalog yn unig.

O safbwynt Cymru gyfan, y cyfnod rhwng mis Chwefror a Gorffennaf yw’r 16eg cyfnod sychaf mewn 190 mlynedd (Chwefror-Gorffennaf) - a’r sychaf ers 1976.

Rhannwyd y penderfyniad gyda chyfarfod o Grŵp Cyswllt Sychder Llywodraeth Cymru brynhawn dydd Iau, ar ôl ystyried effaith pwysau parhaus y tymereddau uchel a'r diffyg glaw ar yr ardal yn ystod y misoedd diwethaf.

Mae gweddill Cymru’n dal i fod mewn statws cyfnod hir o dywydd sych, ond mae timau CNC yn dal i fonitro llif afonydd, lefelau dŵr daear ac effeithiau ar yr amgylchedd, tir, amaethyddiaeth a sectorau eraill yn fanwl.

Er bod cyflenwadau dŵr yfed cyhoeddus yn parhau i fod yn ddiogel, cynghorir pobl a busnesau i ddilyn cyngor Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy, a defnyddio dŵr yn ddoeth yr haf hwn i helpu i leddfu'r pwysau ar yr amgylchedd yn ogystal â chyflenwadau dŵr.

'Eithriadol'

Dywedodd Rhian Thomas, Rheolwr Dŵr a Natur Cynaliadwy CNC: “Mae’r tywydd a welwyd dros y gwanwyn a’r haf hwn wedi bod yn eithriadol, gyda Chymru’n cofnodi’r cyfnod chwe mis sychaf ers sychder 1976.

“Mae diffyg glaw sylweddol wedi effeithio ar yr amgylchedd, ac rydym yn derbyn adroddiadau am lif isel a gwelyau afonydd sych mewn rhai ardaloedd, lefelau dŵr daear isel yn ogystal ag adroddiadau am bysgod yn dioddef a gordyfiant algâu.

“Mae dalgylchoedd yn ne-ddwyrain Cymru wedi cael eu heffeithio’n benodol, gydag afonydd yn derbyn ychydig iawn o law yn ystod y misoedd diwethaf, ac afonydd Wysg a Gwy yn cofnodi tymereddau afonydd uchel yn gyson a allai fygwth poblogaethau pysgod.

“Wrth i’r ardal gyrraedd statws sychder, byddwn yn cynyddu ein camau gweithredu yn unol â Chynllun Sychder CNC.”

Mae’r ardaloedd sydd wedi’u heffeithio gan y symudiad i statws sychder yn cynnwys:

  • Gwy (Cymru)
  • Wysg
  • Y Cymoedd (Taf, Ebwy, Rhymni, Trelái, Llwyd a’r Rhondda)
  • Bro Morgannwg (Dawan a Thregatwg)

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.