Apêl am wybodaeth wedi 'ymosodiad difrifol' ar fachgen 15 oed
Mae Heddlu De Cymru'n ymchwilio i ymosodiad difrifol a ddigwyddodd ar Ynys y Barri ddydd Mawrth.
Fe ddioddefodd bachgen 15 oed ymosodiad gan grŵp o ddynion ger maes parcio Heol Paget am tua 19.30.
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un a welodd y digwyddiad i gysylltu gyda nhw.
Roedd pobl yn yr ardal ar y pryd, gan gynnwys gyrwyr a allai fod â lluniau camera dashcam o'r digwyddiad meddai'r heddlu.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Phillip Marchant: “Roedd hwn yn ymosodiad llwfr a chreulon gan grŵp o ddynion a allai fod wedi gorffen yn llawer gwaeth.
“Bydd yr hyn a ddigwyddodd nos Fawrth mewn man cyhoeddus poblogaidd wedi gadael pobl mewn sioc ac yn bryderus.
“Mae gennym luniau gafodd eu rhannu ar-lein ac rydym yn edrych ar luniau camerâu cylch cyfyng.
"Mae swyddogion hefyd yn patrolio’r ardal yn ystod misoedd prysur yr Haf.”
Llun: Google