'Chwalu'r stigma': Lansio gwasanaeth cymorth ym Mae Colwyn er cof am The Vivienne

the vivienne.jpg

Mae gwasanaeth newydd i helpu pobl sydd yn ddibynol ar alcohol a chyffuriau wedi ei lansio er cof am yr artist drag o Fae Colwyn, The Vivienne.

Fe fydd House of The Vivienne yn rhoi cymorth i bobl sydd yn byw â phroblemau alcohol a chyffuriau, gan gynnig cymorth am ddim o safle Tŷ Enfys ym Mae Colwyn. 

Chanel Williams, sef chwaer y diweddar James Lee Williams, neu The Vivienne, fydd yn arwain y gwasanaeth gyda chymorth eu teulu. 

Bu farw James Lee Williams yn 32 oed ym mis Ionawr yn dilyn ataliad ar y galon ar ôl  defnyddio’r cyffur cetamin. 

Fel cyn enillydd y gyfres boblogaidd RuPaul’s Drag Race UK, fe gafodd eu marwolaeth effaith fawr ar y gymuned LHDTC+. 

Bellach mae eu chwaer yn benderfynol o greu newid er mwyn helpu pobl i fynd i’r afael â’u problemau. 

“Mae cetamin yn gyffur sydd yn hynod o beryglus ac sydd yn dod yn fwyfwy cyffredin yn y DU,” meddai Chanel. 

Dywedodd bod yna “stigma” sy’n gysylltiedig â defnyddio cetamin a bod hynny’n arwain at golli bywydau. 

“’Da ni eisiau chwalu’r stigma yna a chreu lle ble y gallai pobl deimlo’n ddiogel i ddweud: ‘Dwi angen eich help’.” 

'Tywyllwch'

Mae Chanel a’i theulu yn cydweithio gydag elusennau The Sanctuary Trust ac Adferiad ymhlith eraill wrth iddyn nhw lansio’r gwasanaeth. 

Eu gobaith yw helpu pobl ar hyd a lled y wlad. 

Fe ddaeth The Vivienne yn enw adnabyddus ar ôl ennill cyfres gyntaf y fersiwn Brydeinig o Ru Paul’s Drag Race yn 2019. 

O Fae Colwyn yn wreiddiol, fe symudodd i Lerpwl yn ddiweddarach. 

“Roedd James wedi dod â disgleirdeb a llawenydd lle bynnag yr aethant,” meddai Chanel. 

“Ond roeddent hefyd yn adnabod tywyllwch caethiwed.” 

Mae cetamin yn anesthetig pwerus sydd yn cael ei ddefnyddio mewn triniaethau meddygol. Ond mae ‘na gynnydd yn y nifer sydd yn ei gamddefnyddio, yn enwedig ymhlith y to iau. 

Fe all achosi niwed difrifol i'r bledren yn ogystal â phroblemau gyda’r cof, ac mewn rhai achosion, fe all arwain at farwolaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.