Gorymdaith Lerpwl: Dyn yn wynebu 24 o gyhuddiadau newydd

Paul Doyle

Mae dyn sydd wedi’i gyhuddo o yrru car i mewn i bobl yn ystod gorymdaith i ddathlu llwyddiant Clwb Pêl-droed Lerpwl yn wynebu 24 o gyhuddiadau newydd, gan gynnwys dau yn ymwneud â dioddefwyr honedig oedd yn fabanod.

Roedd Paul Doyle, 53, mewn dagrau wrth iddo ymddangos dros gyswllt fideo o’r carchar ar gyfer gwrandawiad yn Llys y Goron Lerpwl ddydd Iau.

Cafodd ei gyhuddo’n wreiddiol o saith trosedd yn dilyn y digwyddiad ar Stryd y Dŵr yng nghanol y ddinas ychydig ar ôl 18.00 ar 26 Mai.

Clywodd Llys y Goron Lerpwl ddydd Iau fod chwech o’r cyhuddiadau newydd yn ymwneud â phlant, gan gynnwys dau faban.

Roedd un o'r babanod yn chwe mis oed ar y pryd ac un yn saith mis oed.

Ni wnaeth Doyle, a oedd yn gwisgo crys-T llwyd, gyflwyno ei ble yn ystod y gwrandawiad 20 munud o hyd.

Fe wnaeth Cofiadur Lerpwl, y Barnwr Andrew Menary KC, ohirio'r achos tan 4 Medi.

Mae disgwyl i Doyle gyflwyno ei ble bryd hynny.

Cyhuddiadau 

Mae’r cyhuddiadau newydd yn cynnwys 23 cyhuddiad o ymosod ac un cyhuddiad o affrae.

Dywedodd Heddlu Glannau Mersi fod 134 o bobl wedi’u hanafu yn y digwyddiad ar Stryd y Dŵr ym mis Mai ôl i gar daro yn erbyn pobl yn ystod gorymdaith i ddathlu tîm pêl-droed Lerpwl yn bencampwyr Uwch Gynghrair Lloegr.

Cafodd Doyle, sy'n dod o ardal Croxteth yn Lerpwl, ei gyhuddo ym mis Mai o un cyhuddiad o yrru'n beryglus, dau gyhuddiad o anafu gyda bwriad, dau gyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol a dau gyhuddiad o geisio achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol.

Mae un cyhuddiad o anafu ac un cyhuddiad o geisio achosi niwed corfforol difrifol yn ymwneud â phlant 11 a 17 oed.

Yn gynharach eleni, fe wnaeth y Barnwr Andrew Menary nodi 24 Tachwedd fel dyddiad dros dro ar gyfer yr achos.

Mae disgwyl i'r achos bara am dair i bedair wythnos.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.