Cyngor yn dileu dyled o £50,000 oedd yn ddyledus gan hyrwyddwr cyngherddau

Parc Eirias

Mae cyngor wedi cytuno i ddileu dyled o £51k a oedd yn ddyledus iddo gan hyrwyddwr cyngherddau a roddodd y gorau i fasnachu yn 2023.

Dywedodd Cyngor Conwy ei fod wedi “defnyddio pob llwybr posibl” i adennill y ddyled oedd yn ddyledus gan Orchard Live Ltd.

Daeth yr hyrwyddwr â pherfformwyr enwog i Fae Colwyn am fwy na degawd fel rhan o raglen ddigwyddiadau Access All Eirias.

O Syr Tom Jones i Syr Elton John, Paloma Faith i Noel Gallagher, roedd y cyngherddau'n boblogaidd iawn ar y pryd, gyda miloedd yn heidio i stadiwm Parc Eirias yn y dref.

Cyngor Sir Conwy sy’n berchen ar y lleoliad. 

Cafodd Orchard Live Ltd ei ddiddymu'n wirfoddol a dechreuodd y busnes ddirwyn i ben yn swyddogol ar 21 Medi, 2023.

Roedd wedi gadael dyled gyda'r cyngor am sawl anfoneb oedd heb eu talu.

Yng nghyfarfod cabinet y cyngor yn gynharach yr weythnos hon, dywedwyd wrth yr aelodau fod y cyngor wedi “defnyddio pob llwybr posibl i adennill y ddyled hon” cyn cytuno i’w dileu.

Roedd yr arian a oedd yn ddyledus yn ymwneud â llogi ystafell, llogi cegin a chonsesiwn bar a ddarparwyd i Orchard Live Limited rhwng Gorffennaf 21 a 23, 2023, sef cyfanswm o £51,186.67, gan gynnwys TAW.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.