Cyhuddo dynes mewn ymchwiliad i gam-fanteisio rhywiol ar blant

Llys y Goron yr Wyddgrug

Mae dynes 52 oed wedi cael ei chyhuddo o nifer o droseddau fel rhan o ymchwiliad i gam-fanteisio rhywiol ar blant yn ardal Sir Ddinbych. 

Mae Sarah Gray o ardal Gronant wedi ei chyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a B, cynorthwyo troseddwr a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Ymddangosodd yn Llys Ynadon yr Wyddgrug ddydd Gwener, ac fe gafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth. 

Mae pedwar dyn o Sir Ddinbych eisoes wedi eu cyhuddo o sawl trosedd, gan gynnwys treisio, ymosodiad rhywiol, a chyflenwi cyffuriau anghyfreithlon. 

Dywed Heddlu'r Gogledd bod y troseddau honedig wedi digwydd yn ardaloedd y Rhyl a Llundain rhwng 2022 a 2024 ac yn ymwneud â thair o ferched. 

Mae Mustafa Iqbal, 42, o Ffordd Trellewelyn, Y Rhyl, wedi'i gyhuddo o dri chyfrif o dreisio, tri chyfrif o ymosodiad rhywiol, tri chyfrif o annog plentyn o dan 16 oed i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol, chwe throsedd o dan Adran 1 a 2 o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern, cynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a Dosbarth B, meddu ar ddryll, a thorri Gorchymyn Risg Caethwasiaeth a Masnachu.

Mae Mohammad Usman Arshad, 35, o Clifton Grove, Y Rhyl, wedi'i gyhuddo o dreisio, pedwar trosedd o dan Adran 1 a 2 o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern, a chyflenwi cyffuriau Dosbarth B.

Mae Ziaullah Badsha, 24, o Ffordd Brighton, Y Rhyl, wedi'i gyhuddo o ddau gyfrif o dreisio, pedwar trosedd o dan Adran 1 a 2 o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern, a chyflenwi cyffuriau Dosbarth B.

Mae Jaswinder Singh, 60 oed, o Stryd yr Afon, Y Rhyl, wedi’i gyhuddo o ddau drosedd o dan Adran 2 o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern, a chyflenwi cyffuriau Dosbarth B.

Fe fydd y pum person yn ymddangos yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar gyfer cyflwyno ple a gwrandawiad paratoi achos ar 5 Medi. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.