'Llygredd difrifol’ yn lladd pysgod mewn llyn yn Sir Benfro

Llun: Prosiect y Cleddau
Pysgodyn wedi marw

Mae llyn yn Sir Benfro wedi profi “achos o lygredd difrifol” ar ôl i’r “lefel uchaf o amonia” gael ei ganfod yn y dŵr.

Mae Prosiect y Cleddau wedi mynegi “pryderon difrifol” yn dilyn darganfod chwe physgodyn marw yn arnofio yn Llyn Wallis, ger Treamlod.

Cafodd y pryderon eu codi yn gyntaf ar ddydd Sadwrn, 9 Awst, yn ôl y grŵp.

Fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru gadarnhau eu bod nhw wedi derbyn “adroddiadau am slyri posib yn treiddio i nant sy’n bwydo Llyn Wallis”.

Fe wnaeth y corff ddweud bod swyddog amgylcheddol wedi ymweld â’r llyn, sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ar 13 Awst gan “gadarnhau presenoldeb tri physgodyn marw”.

Dywedodd llefarydd: “Roedd y nant sy’n bwydo’r llyn yn lân, heb unrhyw arogl nac arwyddion amlwg o lygredd.

“Roedd y llyn ei hun yn edrych yn llwyd, ond doedd dim arwydd amlwg o ddifwyno. Fe welwyd pysgod byw yn y llyn yn ystod ein hymweliad hefyd.”

Fe wnaeth Prosiect Cleddau, grŵp cymunedol sy’n ceisio amddiffyn bywyd gwyllt a chynefinoedd yn Sir Benfro, feirniadu Cyfoeth Naturiol Cymru am eu hymateb.

Dywedodd llefarydd ar eu rhan: “Mae’r digwyddiad hwn yn codi pryderon difrifol ynghylch meini prawf ymateb i lygredd CNC, sy’n golygu eu bod nhw bellach ond yn ymateb i adroddiadau maen nhw’n eu hystyried yn ‘arwyddocaol’.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.