
Arweiniad gan fusnesau bach yn 'allweddol i gwrdd â heriau’r stryd fawr'
Arweiniad gan fusnesau bach yn 'allweddol i gwrdd â heriau’r stryd fawr'
Mae arweiniad gan fusnesau bach annibynnol yn allweddol i gwrdd â heriau’r stryd fawr, yn ôl Ffederasiwn y Busnesau Bach.
Mae’r ffactorau sy’n ei gwneud hi’n anodd i ganol trefi’n gyfarwydd ers amser - siopa ar y we, parcio a threthi busnes ymhlith eraill.
Wrth i fwy o gwmnïau cadwyn fynd i drafferthion ers y pandemig, mae’r bylchau yng nghanol sawl tref yng Nghymru wedi cynyddu.
Ond yn y Bala yng Ngwynedd, mae’r bylchau hynny’n brin a’r rhan fwyaf o unedau’r stryd fawr yn llawn, yn cael eu rhedeg gan fusnesau bach, annibynnol.
Becws Islyn ydy un o’r busnesau diweddaraf i agor siop yma. Yn ôl y perchennog Rhodri Pritchard, roedd gweithgarwch lleol yn un o’r pethau a’u denodd.
“‘Den ni wedi bod yn dod i’r Bala ‘ma’n gyson efo’r ffair. Mae ganddyn nhw ddwy ffair, un yn y gwanwyn ac un yn yr hydref," meddai.
“Ac oedden ni’n cael cefnogaeth dda. Oedd genno ni stondin yn y neuadd ac roedd ‘na gefnogaeth andros o dda gan y bobl leol.
“Dyna oedd yr ymateb bob tro oedden ni’n dod, ‘Rhaid i chi agor siop yn y Bala!’”

Fe agorodd Megan Llŷn siop ddillad Amdanat ddwy flynedd a hanner yn ôl.
“Mae ‘na lot o fwrlwm yma. Mae’r busnesau eu hunain yn cefnogi ei gilydd. Mae ‘na grŵp busnesau bach y Bala," meddai.
“‘Dan ni’n cyfarfod bob hyn a hyn, so mae’n teimlo bod hi’n dref gefnogol o ran y busnesau’n helpu ei gilydd.”
Yn elwa ar lwyddiant timau pêl-droed Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, mae siop SO58 yn denu o bedwar ban byd.
Er mai ar y wê mae’r perchennog Tim Williams yn gwerthu fwyaf, mae’n teimlo bod y siop go iawn yn allweddol i’w fusnes.
“Mae’r Bala’n tynnu lot o tourists i fewn. Mae ’na siopau reit gwahanol i’r rhai run of the mill ti’n gael," meddai.
“Mae ‘na lot o independent siopau yn trio’u gore a mae pobl sy’n rhedeg siopau yn Bala yn rhoi dipyn bach mwy o effort i dynnu pobl o wahanol lefydd i mewn i Bala.”

Er bod rhyw lond dwrn o siopau gwag ar y Stryd Fawr ar hyn o bryd, mae’n debyg bod unedau’n llenwi’n weddol gyflym pan maen nhw’n dod yn rhydd.
Hyd yma prin iawn ydy’r siopau cadwyn mawr a siopau elusen yn y dref.
Yn ôl y Cynghorydd Dilwyn Morgan, mae rhai cwmnïau mawr wedi dangos diddordeb yn y gorffennol.
“Mae’n rhywbeth sy’n codi ei ben weithiau, a mae’n hollti’r gymuned. Mae rhai pobl yn deud bod o’n beth da oherwydd bod o’n dod â cystadleuaeth i fusnesau eraill," meddai.
“Ond edrychwch chi ar gymunedau lle mae ‘na fusnesau mawr wedi symud i gyrion trefi, ar i lawr mae’r stryd fawr yn mynd yn anffodus.”

Fe geisiodd Newyddion BBC Cymru gysylltu gyda Chonsortiwm Manwerthu Prydain am ymateb i sylwadau’r Cynghorydd Morgan.
Mae busnesau lleol gweithgar yn allweddol i iechyd unrhyw stryd fawr yn ôl Llyr ap Gareth o Ffederasiwn y Busnesau Bach.
“Be’ ‘dan ni’n weld sy’n bwysig i gael stryd fawr lewyrchus ydy busnesau lleol yn dangos arweinyddiaeth, yn gweithio gyda’i gilydd, yn siapio stryd fel mae nhw’n gweld sydd angen," meddai.
“Busnesau lleol sy’n mynd i wybod orau be’ mae nhw angen felly mae’n bwysig bod nhw’n cael eu galluogi i wneud hynna trwy gefnogaeth er mwyn sicrhau bod nhw’n cael y cyfle i greu stryd fawr sy’n llewyrchus.”