
Cwmni sy’n gysylltiedig â’r Farwnes Mone i ad-dalu £121 miliwn am dorri cytundeb PPE
Mae cwmni sy’n gysylltiedig â’r Farwnes Geidwadol Michelle Mone wedi cael gorchymyn i ad-dalu dros £121 miliwn i Lywodraeth y DU am dorri cytundeb cyflenwi gwisgoedd llawfeddygol yn ystod y pandemig.
Fe wnaeth Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth San Steffan (DHSC) fynd â chwmni PPE Medpro i’r Uchel Lys, gan honni bod y cwmni wedi torri cytundeb drwy gyflenwi 25 miliwn o ynau ('gowns') diffygiol.
Mae'r Farwnes Mone wedi beirniadu dyfarniad yr Uchel Lys, gan ei alw’n fuddugoliaeth i’r "sefydliad".
Dywedodd ei gŵr, Doug Barrowman, fod yr achos wedi gwneud cam â chyfiawnder.
Fe wnaeth y Canghellor Rachel Reeves, sydd wedi bod yn arwain y gwaith i adennill arian a gollwyd yn ystod pandemig Covid-19, groesawu'r dyfarniad.
Dywedodd: "Rydym eisiau ein harian yn ôl. Rydym yn cael ein harian yn ôl."
Arwain trafodaethau
Fe wnaeth y Farwnes Mone greu'r brand dillad isaf Ultimo, cyn ei werthu yn 2014.
Cafodd ei gwneud yn arglwyddes Ceidwadol gan y cyn Brif Weinidog David Cameron yn 2015.
Cafodd PPE Medpro, consortiwm dan arweiniad Mr Barrowman, gontract gan y weinyddiaeth Geidwadol flaenorol i gyflenwi offer amddiffynnol personol (PPE) yn ystod y pandemig, ar ôl i'r Farwnes Mone ei argymell i weinidogion.
Yn dilyn hynny fe wnaeth y farwnes weithredu ar ran y cwmni mewn trafodaethau gyda swyddogion i'w helpu i gael y cytundeb.
Yn ei dyfarniad 87 tudalen, dywedodd Mrs Ustus Cockerill nad oedd y gynau "yn ddi-haint, yn gytundebol, nac wedi’u dilysu’n briodol fel rhai di-haint". Roedd hynny'n golygu nad oedd modd i'r GIG eu defnyddio, ychwanegodd.
Fe wnaeth y Farwnes Mone chwarae rhan sylweddol wrth sicrhau’r contract ar gyfer PPE Medpro wrth i’r Llywodraeth geisio sicrhau cyflenwadau o offer amddiffynnol ar fyr rybudd a hynny o bob cwr o’r byd.
Cyfeiriodd y cwmni at y "lôn flaenoriaeth uchel" a oedd yn rheoli argymhellion gan ASau a gweinidogion ar y diwrnod y cafodd PPE Medpro ei gynnwys yn y trafodaethau ym mis Mai 2020.

Dyfarnwyd y contract er gwaethaf pryderon a godwyd ynghylch y "potensial ar gyfer gwrthdaro buddiannau" o ystyried bod gŵr y farwns yn ymwneud â’r cwmni.
Dywedodd y barnwr fod y Farwnes Mone wedi trefnu galwad rhwng swyddogion y DHSC a PPE Medpro yn ystod trafodaethau cytundebau.
Roedd hi hefyd wedi "ymgymryd â’r frwydr" dros y cwmni mewn trafodaethau gyda Swyddfa’r Cabinet, meddai'r barnwr.
Dywedodd bargyfreithwyr PPE Medpro wrth yr achos eu bod wedi cael eu "neilltuo am driniaeth annheg", gan gyhuddo’r Llywodraeth o "edifeirwch prynwr".
Mae'r bargyfreithwyr hefyd wedi honni bod y gynau wedi dod yn ddiffygiol oherwydd yr amodau y cawsant eu storio ar ôl cael eu danfon i’r DHSC.
Daeth Mrs Ustus Cockerill i'r casgliad fod PPE Medpro wedi torri’r contract, gan ddweud fod gan DHSC hawl i bris y gynau fel iawndal.
Bydd yn rhaid i'r arian gael ei dalu erbyn 16.00 ar 15 Hydref.
'Gwyngalchu'r ffeithiau'
Dywedodd Mr Barrowman: "Heddiw, digwyddodd trychineb cyfiawnder yn dilyn dyfarniad yr Arglwyddes Ustus Cockerill.
"Rhoddodd fuddugoliaeth i’r sefydliad i’r DHSC er gwaethaf y mynydd o dystiolaeth yn y llys yn erbyn dyfarniad o’r fath.
"Ychydig iawn o debygrwydd sydd rhwng ei dyfarniad a’r hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd yn ystod yr achos mis o hyd, lle dangosodd PPE Medpro yn argyhoeddiadol fod ei gynau yn ddi-haint."
Ychwanegodd: "Mae’r dyfarniad hwn yn gwyngalchu’r ffeithiau ac yn dangos bod cyfiawnder yn cael ei weld yn cael ei wneud, lle’r oedd y canlyniad bob amser yn sicr i’r DHSC a’r Llywodraeth."
Dywedodd y Farwnes Mone: "Mae dyfarniad heddiw yn erbyn PPE Medpro yn syfrdanol ond yn rhy rhagweladwy.
"Dim llai na buddugoliaeth i’r sefydliad i’r Llywodraeth mewn achos a oedd yn rhy fawr iddyn nhw ei golli."