Rhybudd melyn am wyntoedd cryfion yn y gogledd
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd cryfion ar gyfer rhannau o ogledd Cymru ar ddiwedd yr wythnos.
Storm Amy yw’r gyntaf i gael ei henwi gan y Swyddfa Dywydd yn nhymor 2025/26, ac mae disgwyl iddi ddod â thywydd garw i’r Alban a gogledd Lloegr hefyd.
Mae disgwyl i wyntoedd gryfhau yn ystod fore Gwener, cyn i’r rhybudd ddod i rym rhwng 18.00 ddydd Gwener a 23.59 ddydd Sadwrn.
Gallai'r gwyntoedd achosi hyrddiadau rhwng 50 a 60 milltir yr awr, gyda rhai mannau yn Yr Alban yn debygol o wynebu gwyntoedd dros 80 milltir yr awr.
Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai’r storm achosi difrod i adeiladau ac effeithio ar gyflenwadau pŵer.
Ychwanegodd y gallai hefyd effeithio ar drafnidiaeth ac, mewn rhai achosion, peryglu bywyd.
Mae’r rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol yng Nghymru:
- Conwy
- Gwynedd
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Ynys Môn