'Codi o'r lludw': Yr Academi Frenhinol Gymreig yn penodi rheolwyr newydd

Dr Ceri Thomas, Vicky MacDonald a Jeremy Yates
Dr Ceri Thomas, Vicky MacDonald a Jeremy Yates

Mae'r Academi Frenhinol Gymreig wedi penodi rheolwyr newydd yn dilyn misoedd o ansicrwydd am ddyfodol y sefydliad.

Dywedodd yr academi eu bod wedi penodi'r arlunydd Dr Ceri Thomas, 66, yn llywydd a Jeremy Yates, 78, yn is-lywydd wedi cyfarfod cyffredinol arbennig.

Daw'r cyhoeddiad yn dilyn ymgyrch i geisio atal yr oriel yng Nghonwy rhag cau ei drysau'n barhaol wedi iddi bron â mynd i'r wal ym mis Awst.

Fe wnaeth cyngor blaenorol yr academi gyhoeddi ar y pryd bod yn rhaid iddyn nhw gau'r oriel ar Heol y Goron oherwydd problemau ariannol.

Yn dilyn hynny fe wnaeth y cyn-lywyddion, Dr Thomas a Mr Yates, gamu i’r adwy i geisio achub yr unig academi frenhinol gelfyddydol yng Nghymru.

Mae Dr Thomas yn arlunydd, curadur a hanesydd celf o'r Barri sydd â diddordeb arbennig yn niwylliant gweledol Cymru dros y ganrif ddiwethaf.

Cafodd ei benodi'n llywydd am y tro cyntaf ym mis Hydref 2024, ond gadawodd ei swydd ychydig fisoedd yn ddiweddarach yn sgil pwysau'r gwaith.

Mae Mr Yates yn gyn-ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor sy'n byw ym Methesda yng Ngwynedd ac yn arbenigo mewn tirluniau. 

Roedd yn llywydd y sefydliad rhwng 2014 a 2020, ac yn is-lywydd hyd at ei ymddeoliad ym mis Hydref y llynedd.

'Cyfrifoldeb mawr'

Dywedodd Dr Thomas fod ganddo deimladau "cymysg" am gymryd awenau'r Academi Frenhinol Gymreig eto.

"Mae'n anrhydedd i mi gael fy ail-ethol fel llywydd ond ar yr un pryd mae'n gyfrifoldeb mawr," meddai wrth Newyddion S4C.

"Mi nes i benderfynu camu i lawr ym mis Mawrth oherwydd bod y swydd wedi dod mor heriol nes i mi fod yn gweithio arni fwy neu lai bob dydd o'r wythnos, ac o ganlyniad ro'n i dros dri mis ar ei hôl hi gydag ysgrifennu fy llyfr sef fy ngwaith cyflogedig."

Erbyn mis Awst, roedd cyngor yr academi wedi dweud wrth aelodau eu bod am roi'r sefydliad yn nwylo'r gweinyddwyr.

Ar ôl clywed y newyddion yma dywedodd Dr Thomas fod yn "rhaid iddo wneud rhywbeth" i rwystro'r academi rhag cau ei drysau am byth.

"Rydyn ni wedi bodoli ers 144 mlynedd, dyma'r unig academi gelf yng Nghymru mae'n wirioneddol bwysig o ran nid yn unig yr hyn rwy'n ei alw'n hanes byw artistiaid yng Nghymru, ond dyma'r grŵp celf hiraf erioed yng Nghymru," meddai.

"A gallwn i ddim goddef y syniad o'i gau mor gyflym, yn enwedig heb ymgynghori â'r aelodau, felly roeddwn i'n teimlo bod yn rhaid i ni wneud rhywbeth."

Image
Dr Ceri Thomas
Dyma'r ail waith i Dr Ceri Thomas gael ei ethol yn llywydd yr academi yng Nghonwy

Fe aeth ymlaen i ymgynghori efo cymaint o aelodau ag y gallai ynglŷn â phenderfyniad y cyngor i gau'r academi.

Llwyddodd i gael cefnogaeth dros 40% o'r tua hanner o aelodau a holwyd – roedd angen 25% i rwystro'r penderfyniad.

Mae'r academi bellach wedi ethol cyngor newydd ac yn bwriadu cynnal ocsiwn gelf cyn y Nadolig i godi arian.

Y bwriad, meddai Dr Thomas, ydi codi digon o arian i allu ailagor yr oriel ar ddechrau'r Flwyddyn Newydd.

"Rydyn ni'n mynd i ddatblygu model newydd, achos ni fyddwn ni'n gallu mynd yn ôl at gael pedwar aelod o staff rhan-amser," meddai.

"Mae'r Cymry wedi codi o'r lludw gymaint o weithiau a dyna fy ngobaith i – ein bod ni'n codi o'r lludw a hynny gyda threfn ychydig yn newydd."

Image
Jeremy Yates a Vicky MacDonald
Roedd Jeremy Yates a Vicky MacDonald yn rhan o'r ymgyrch i achub yr academi

Yn cefnogi'r arweinwyr newydd fydd yr arlunydd Vicky MacDonald, 79, o Ddeganwy sydd wedi bod yn arwain yr ymgyrch i achub y safle.

Fe wnaeth Ms MacDonald ddechrau gweithio fel curadur yn yr oriel yn 1993 yn ystod cyfnod Syr Kyffin Williams fel llywydd yno.

Ym mis Medi dywedodd wrth Newyddion S4C bod angen iddyn nhw ddod o hyd i £80,000 y flwyddyn i gynnal y safle.

Yn ogystal â chodi arian mae'r tri wrthi yn gwneud ceisiadau am grantiau ac wedi sicrhau £10,000 gan Gyngor Tref Conwy hyd yma.

Mewn datganiad, dywedodd yr academi: "Mae Ceri a Jeremy yn gyfarwydd i nifer o bobl o fewn yr academi a thu hwnt ar ôl gwasanaethu yn y rolau arweinyddiaeth hyn o'r blaen. Mae eu dychweliad yn dod â pharhad a phrofiad mewn cyfnod o newid a her.

"Ochr yn ochr â nhw, mae Vicky MacDonald yn parhau â'i chysylltiad hir â'r academi ar ôl iddi wasanaethu fel curadur-weinyddwr o dan Syr Kyffin Williams ac, yn fwy diweddar, fel aelod anrhydeddus o'r cyngor. 

"Mae ei chyfranogiad parhaus yn darparu sefydlogrwydd a sicrwydd pellach i aelodau a chefnogwyr."

Ychwanegodd: "Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio o dan yr arweinyddiaeth hon i barhau i gefnogi celf ac artistiaid Cymru, gan adeiladu ar hanes balch yr academi wrth wynebu'r dyfodol gyda golwg benderfynol."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.