Dau achos arall o'r tafod glas wedi eu darganfod ym Mhowys
Mae dau achos arall o'r tafod glas wedi eu darganfod ym Mhowys.
Mae un achos wedi ei ddarganfod ger Llangamarch ac achos arall ger Llanfair Llynthynwg medd Llywodraeth Cymru.
Daw hyn ddyddiau ar ôl i'r achosion cyntaf gael eu darganfod eleni. Roedd un o'r achosion hynny ym Mhowys hefyd a'r llall yn Sir Fynwy.
Ar 21 Medi fe wnaeth y llywodraeth lacio cyfyngiadau ar symud da byw o Loegr i Gymru.
Mae'r rheolau newydd yn golygu y gall anifeiliaid sydd wedi cwblhau cynllun brechu, ac sydd heb ddangos unrhyw arwyddion o salwch, symud o'r parth dan gyfyngiadau yn Lloegr i Gymru heb brawf cyn symud.
Cyngor Llywodraeth Cymru yw i'r rhai sydd yn cadw da byw fod yn wyliadwrus a phrynu'r anifeiliaid o lefydd diogel.
Maent yn dweud y dylai pobl siarad gyda'i milfeddyg am frechu yn erbyn y clefyd ac adrodd unrhyw achosion amheus i Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion Llywodraeth y DU (APHA).
Beth yw tafod glas?
Mae’r tafod glas yn firws sydd yn cael ei ledaenu'n bennaf gan wybedyn bach sy'n brathu.
Mae'n effeithio ar ddefaid, gwartheg, ac anifeiliad eraill sydd yn cnoi eu cil fel ceirw a geifr, ac anifeiliaid fel lamas ac alpacas.
Mae’n effeithio ar iechyd a chynhyrchiant anifeiliaid. Mewn achosion difrifol, gall achosi erthyliadau a hyd yn oed marwolaeth mewn anifeiliaid heintiedig.
Un o’r symptomau yw lliw glas ar dafodau anifeiliaid oherwydd lefelau isel o ocsigen yn y gwaed.
Nid yw'n effeithio ar bobl na diogelwch bwyd, ond gall achosion arwain at gyfyngiadau ar symud anifeiliaid am gyfnod hir a masnach.