Llywodraeth yr UDA wedi cau
Mae Llywodraeth ganolog yr UDA wedi cau ers ychydig orau ar ôl i'r Gweriniaethwyr a'r Democratiaid fethu a chytuno ar becyn cyllid.
Er bod gweithwyr hanfodol yn parhau i wneud eu swyddi mae gweithwyr eraill y llywodraeth yn absennol o'r gwaith heb dâl.
Dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd ers 2018-19 ac fe allai olygu y bydd rhai gwasanaethau yn cael eu hatal am gyfnod.
Fe rybuddiodd Arlywydd America, Donald Trump cyn i'r llywodraeth gau y gallai wneud "toriadau di- droi'n ôl" a fyddai yn "wael" i'r Democratiaid. Dywedodd hefyd y gallai gael gwared â "lot o bobl".
Mae'r sefyllfa wedi digwydd am fod y ddwy blaid wedi gwrthod cyfaddawdu ar wariant iechyd.
Mae'r Democratiaid eisiau i'r llywodraeth wyrdroi toriadau i raglen yswiriant iechyd y llywodraeth a gafodd ei phasio yn ystod yr haf.
Yn ôl arweinydd y Gweriniaethwr yn y Senedd, John Thune fydd y Gweriniaethwyr ddim yn cael eu cymryd yn "wystlon" er mwyn darparu "gofal iechyd am ddim i bobl sydd yma yn anghyfreithlon".
Ond mae arweinydd y Democratiaid, Chuck Schumer wedi dweud bod pecyn cyllid y Gweriniaethwyr yn "gwneud dim i ddatrys yr argyfwng iechyd" yn America.
Llun: Reuters