Rhybudd heddlu i beidio rhannu deunydd am honiadau rhywiol
Mae'r heddlu yn ymchwilio wedi i gynnwys gael ei rhannu ar y we sydd yn cyfeirio at honiadau o droseddau rhywiol yn ymwneud a disgybl mewn ysgol uwchradd yn Sir Ddinbych.
Yn ôl Heddlu'r Gogledd y gred yw bod y deunydd yn cynnwys manylion yn gysylltiedig gyda'r digwyddiad honedig.
Mae'r llu yn rhybuddio'r cyhoedd i beidio rhannu deunydd na negeseuon yn ymwneud a'r achos.
Maent yn dweud y gallai edrych a dosbarthu gwybodaeth bersonol fod yn niweidiol i unrhyw achos llys yn y dyfodol a gallai fod yn drosedd.