Starmer yn dweud nad ydy Farage yn hiliol ond bod ei bolisi mewnfudo

Starmer yng nghynhadledd Llafur

Mae Syr Keir Starmer wedi dweud nad ydy Nigel Farage a'i gefnogwyr yn hiliol ond bod eu polisi am fewnfudo.

Daw sylwadau Starmer wrth iddyn nhw feirniadu Reform gan ddweud bod eu polisi i gael gwared â'r hawl i rai mewnfudwyr i aros yn gyfreithiol ym Mhrydain yn "hiliol" ac "anfoesol".

Wrth siarad gyda gohebydd Sky dywedodd y Prif Weinidog nad ydy o yn credu bod Mr Farage yn hiliol.

"Na, a dydw i ddim yn meddwl bod cefnogwyr Reform yn hiliol.

"Maen nhw'n bryderus am bethau fel ein ffiniau ni, maen nhw'n rhwystredig gyda pha mor gyflym mae pethau yn newid."

Ond dywedodd bod polisi Reform i anfon yn ôl mudwyr sydd yn byw yn gyfreithiol ym Mhrydain fel un fyddai "i fi yn rhwygo ein gwlad". 

Fe wnaeth Starmer hefyd mewn cyfweliad radio gyda LBC wrthod yr honiad bod sôn am bolisïau Reform fel rhai hiliol yn bygwth diogelwch aelodau Reform.

Pan ofynnwyd iddo a oedd ei wrthwynebwyr gwleidyddol mewn perygl dywedodd y Prif Weinidog:" Na, dim dyna yw'r sefyllfa."

Mae Nigel Farage wedi dweud ei fod o wedi newid ei feddwl am Keir Starmer. Mewn erthygl yn y Daily Mail dywedodd ei fod wedi ei "synnu gyda'i ymddygiad."

"Efallai ein bod ni yn anghytuno am ein byd olwg ond tan y penwythnos yma roeddwn i yn meddwl ei fod yn ddyn rhesymol.

"Dwi wedi fy synnu gyda'i ymddygiad. Dwi'n gobeithio pan fydd o'n deffro bore ma y bydd yn teimlo cywilydd am yr hyn mae wedi gwneud i wleidyddiaeth Prydain yn ystod y dyddiau diwethaf." 

Mae Starmer wedi dweud wrth y BBC ei fod eisiau edrych eto ar sut mae cyfreithiau rhyngwladol yn cael eu dehongli yng nghyd-destun ceiswyr lloches. Mae'n dweud ei fod eisiau atal ceiswyr lloches aflwyddiannus rhag dadlau fod gwasanaeth iechyd a charchardai yn eu gwledydd yn waeth. 

Mae hyn yn cyfeirio at gymal 3 dadleuol o Gonfesiwn Hawliau Dynol Ewrop.

Llun: Danny Lawson/PA Wire

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.