Conwy: Ymgyrch i achub yr Academi Frenhinol Gymreig wedi iddi fynd i’r wal

Vicky MacDonald, yr Academi Frenhinol Gymreig

Mae criw o arlunwyr yng Nghonwy yn ceisio atal yr unig academi frenhinol gelfyddydol yng Nghymru rhag cau ei drysau’n barhaol ar ôl i’r safle fynd i ddwylo’r gweinyddwyr ar ddiwedd mis Awst.

Fe wnaeth cyngor blaenorol yr Academi Frenhinol Gymreig gyhoeddi eu bod yn cau drysau eu horiel yng Nghonwy oherwydd costau uwch a diffyg cyllid.

Ond erbyn hyn mae dau gyn-lywydd yr academi, yr arlunwyr Dr Ceri Thomas a Jeremy Yates, wedi camu i’r adwy i geisio achub y sefydliad celfyddydol 144 oed.

Mae’r oriel ar Heol y Goron yn nhref Conwy ar gau ar hyn o bryd ac yn nwylo’r gweinyddwyr wrth i'r criw geisio dod o hyd i arian dros yr wythnosau nesaf.

Yn ôl yr arlunydd Vicky MacDonald, 79 oed, o Ddeganwy, sy’n arwain yr ymgyrch, mae angen dod o hyd i £80,000 y flwyddyn er mwyn cynnal y safle.

Mae hi eisoes wedi gwneud cais am grantiau ac yn cynnal digwyddiadau i godi arian, gan gynnwys ailagor yr oriel ar gyfer Ffair Hadau Conwy ddydd Sadwrn. 

Bydd ocsiwn gelf hefyd yn cael ei chynnal ym Mae Colwyn y mis hwn i godi arian.

Fe wnaeth Ms MacDonald ddechrau gweithio fel curadur yn yr oriel yn 1993 yn ystod cyfnod Syr Kyffin Williams fel llywydd yno.

"Fe wnaeth Kyffin fy ngwneud i'n aelod anrhydeddus o'r cyngor ac mae'r oriel yn golygu llawer i mi," meddai wrth Newyddion S4C.

"Fel sefydliad ac fel fforwm i artistiaid, mae'n bwysig iawn i mi, i Gonwy ac i Gymru gyfan."

Ychwanegodd: "Gyda gwaith caled ac ewyllys da, rwy’n credu y gallem lwyddo i'w achub."

'Ar y dibyn'

Bydd cyfarfod cyffredinol arbennig yn cael ei gynnal ar ddiwedd mis Medi er mwyn ethol cyngor newydd a chyflwyno cynllun ar gyfer dyfodol yr oriel.

Fe wnaeth ymddiriedolwyr blaenorol yr Academi Frenhinol Gymreig ymddiswyddo fis diwethaf yn dilyn misoedd lawer o geisio dod o hyd i arian.

Yn dilyn hynny, roedd dryswch am sefyllfa ariannol yr oriel wrth i griw newydd gymryd yr awenau, gyda rhai yn dyfalu ei bod wedi derbyn arian.

Ond mae Ms MacDonald yn mynnu nad yw hynny’n wir, gan ddweud eu bod "wir ar y dibyn" ac wedi gorfod cau’r oriel am y tro.

"Gan nad oes gennym staff ddim mwy, heblaw un sy’n gweithio ar ein cyfryngau, does gennym ni ddim bil staff mawr ac rydym wedi cau’r oriel hefyd," meddai.

"Rydym ni wedi diffodd y gwres ac mae’r goleuadau i ffwrdd, ond mae’n rhaid i ni barhau i dalu’r biliau trydan a gas os ydym ni’n eu troi ymlaen.

"Er hynny mae ein costau cyffredinol wedi gostwng yn sylweddol nawr ac er ein bod ni’n agor ddydd Sadwrn, dim ond am ddiwrnod rydyn ni’n gwneud hynny."

Image
Jeremy Yates a Vicky MacDonald
Jeremy Yates a Vicky MacDonald yn siarad yn yr Academi Frenhinol Gymreig

Er ei bod wedi ymddeol, mae Ms MacDonald yn dweud ei bod yn parhau i fod yn angerddol dros gefnogi arlunwyr Cymreig.

"Pan oeddwn i’n gweithio yn yr oriel fel curadur, roedden ni’n gwneud ein cyflogau drwy werthu darnau o gelf," meddai.

"Dw i’n gwybod ei bod hi’n anodd iawn gwerthu darnau o gelf dyddiau yma, ond dw i'n credu ei fod yn bosib."

Arddangosfeydd

Mae hi'n gobeithio y bydd yr oriel yn gallu cynnal arddangosfeydd, gan gynnwys Arddangosfa Agored yn y gwanwyn.

"Mae’r arddangosfa yma yn dod â nifer o bobl i mewn i’r oriel a nifer o syniadau newydd, artistiaid ifanc sydd eisiau cael arddangos eu gwaith yma," meddai.

Ond mae hi'n dweud bod efallai angen ailedrych ar sut y gall yr oriel ei gwneud hi'n haws i arlunwyr ifanc wneud hynny, gan fod yn rhaid iddyn nhw fynd drwy broses "trwyadl" er mwyn cael eu derbyn fel aelodau yn gyntaf.

Er ei bod yn cydnabod bod heriau o'i blaen, gobaith Ms MacDonald ydi gweld yr oriel yn ffynnu eto.

"Rydym yn gobeithio dychwelyd i’r pwynt lle rydym yn gwerthu celf ac yn edrych ar ôl ein haelodau sy’n artistiaid," meddai.

"Ac hefyd yr holl bethau roedden ni’n arfer eu gwneud yn y gymdeithas, fel ein cyrsiau addysgiadol a’n dosbarthiadau darlunio bywyd lonydd.

"Roedd yr oriel yn arfer bod yn le bywiog iawn a byddai’n wych cael gweld hynny eto."

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.