Y chwilio am lofrudd yr ymgyrchydd adain dde Charlie Kirk yn parhau
Mae'r chwilio am lofrudd yr ymgyrchydd gwleidyddol adain dde Charlie Kirk yn parhau yn Utah ddydd Iau, wedi iddo gael ei saethu'n farw wrth annerch torf yno ddydd Mercher.
Cafodd yr ymgyrchydd dadleuol 31 oed ei saethu yn ei wddf, cyn i'r Arlywydd Donald Trump gyhoeddi'n ddiweddarach ei fod wedi marw.
Mae ei farwolaeth wedi ysgwyd y wlad i'w seiliau, ac mae pryder y gall y digwyddiad arwain at ragor o drais gwleidyddol.
Roedd Mr Kirk yn gefnogwr brwd o wleidyddiaeth a syniadaeth MAGA Mr Trump, ac mae'r Arlywydd wedi galw ei farwolaeth yn weithred erchyll.
Ychwanegodd fod y digwyddiad yn "foment dywyll i America" a'i fod yn flin ac yn llawn galar yn dilyn y farwolaeth.
“Teithiodd Charlie Kirk y genedl, gan ymgysylltu’n llawen â phawb oedd â diddordeb mewn dadl ddidwyll. Ei genhadaeth oedd dod â phobl ifanc i’r broses wleidyddol, a gwnaeth hynny’n well nag unrhyw un erioed”, meddai Donald Trump.
Roedd Charlie Kirk yn siarad o flaen torf fawr ym mhrifysgol Utah Valley cyn ei farwolaeth, ac mae'r awdurdodau yno'n credu fod y saethwr wedi tanio'r ergyd farwol o do adeilad ar gampws y brifysgol.
Cafodd dau unigolyn eu harestio yn dilyn y saethu, cyn cael eu rhyddhau'n ddiweddarach.
Roedd Mr Kirk yn un o'r ffigyrau Ceidwadol amlycaf yn yr UDA, ac yn 18 oed fe sefydlodd Turning Point USA - mudiad Ceidwadol gyda'r bwriad o rannu syniadaeth asgell dde ar draws prifysgolion rhyddfrydol y wlad.
Roedd ganddo ddylanwad enfawr ar wleidyddiaeth Gweriniaethol America, gyda'i bodlediad dyddiol yn denu cynulleidfa o filiynau.
Byddai'n cynnal trafodaethau mewn prifysgolion gan ddadlau gyda myfyrwyr am rai o bynciau mwyaf dadleuol y dydd.
Roedd yn briod ac yn dad i ddau o blant ifanc.
Llun: Flickr/Gage Skidmore