Cynnal cwest i farwolaeth dyn mewn cyngerdd Oasis yn Llundain
Mae cwest wedi clywed bod dyn a syrthiodd i'w farwolaeth yn un o gyngherddau'r band Oasis yn Wembley wedi dioddef "nifer o anafiadau corfforol".
Bu farw Lee Claydon, 45 oed, o Bournemouth, Dorset, yn dilyn y digwyddiad yn y stadiwm yn Llundain ar 2 Awst.
Agorwyd cwest Mr Claydon yn Llys Crwner Barnet ddydd Iau gan yr uwch grwner Andrew Walker.
Clywodd y cwest fod Mr Claydon wedi cael ei gludo i ganolfan feddygol yn Wembley ar ôl y gwymp, lle cyhoeddwyd ei fod wedi marw am 22.38.
Dywedodd Mr Walker fod archwiliad post-mortem ar 6 Awst wedi nodi'r achos meddygol dros ei farwolaeth fel "nifer o anafiadau corfforol".
Gohiriodd Mr Walker y cwest tan y bydd gwrandawiad cyn-cwest yn cael ei gynnal ar 19 Tachwedd.
Ychwanegodd yr uwch grwner: “Ar ôl clywed y wybodaeth honno, rwyf am agor ymchwiliad i farwolaeth Lee Claydon.
“Rwyf am orchymyn bod gwrandawiad cyn-cwest yn cael ei gynnal ar Dachwedd 19 eleni am 10.00.”
Digwyddodd y farwolaeth yn ystod cyfres o sioeau stadiwm ar daith aduniad Live ’25 y band eleni – eu taith gyntaf ers i'r band chwalu yn 2009.
Dywedodd Oasis yn flaenorol mewn datganiad: “Rydym wedi ein syfrdanu ac wedi ein tristáu o glywed am farwolaeth drasig ffan yn y sioe.
“Hoffai Oasis estyn ein cydymdeimlad diffuant i deulu a ffrindiau’r person dan sylw.”