Eryri i groesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2028

Cerflun Mr Urdd

Rhanbarth Eryri fydd yn croesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2028.

Mae’r Urdd a Chyngor Gwynedd yn y broses o drafod safleoedd posib ar gyfer maes yr ŵyl ar hyn o bryd.

Y tro diwethaf i'r rhanbarth groesawu Eisteddfod yr Urdd oedd yng Nglynllifon ger Caernarfon yn 2012.

Bydd cyfarfod cyhoeddus ar gyfer gwirfoddolwyr a chefnogwyr yn cael ei gynnal yn Ysgol Brynrefail, Llanrug, ar nos Fercher 24 Medi.

Dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau: "Pleser yw cael cefnogaeth Cyngor Gwynedd i gynnal yr Eisteddfod yn 2028. 

"Un o elfennau pwysicaf Eisteddfod yr Urdd yw’r ffaith ei bod hi’n teithio, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr i gydweithio gyda’r gymuned yn ogystal â’r Cyngor dros y tair blynedd nesaf i gynnig profiadau gwerthfawr i blant a phobl ifanc yr ardal."

Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Rwyf yn hynod falch fod Cabinet Cyngor Gwynedd yn ei gyfarfod cyn yr haf wedi cytuno i wahodd yr Urdd i gynnal Eisteddfod Genedlaethol yng Ngwynedd yn 2028. 

"Bydd yn bleser gallu cynnig llety i’r wŷl arbennig ac unigryw yma sy’n dathlu creadigrwydd, dawn ac ymroddiad ein pobl ifanc yn ogystal â’r diwylliant Cymraeg. Rwy’n edrych ymlaen yn arw ac yn croesawu cydweithrediad efo’r Urdd sy’n gwneud gwaith arbennig!"

Ynys Môn fydd cartref Eisteddfod yr Urdd y flwyddyn nesaf, ac yna Casnewydd, rhanbarth Gwent, yn 2027.

Newidiadau

Mae'r Urdd wedi cyhoeddi y bydd trefn newydd ar gystadlaethau yr Eisteddfod yn 2026 wrth i’r mudiad lansio gŵyl saith diwrnod am y tro cyntaf.

O'r flwyddyn nesaf ymlaen, fe fydd cystadlaethau i aelodau hŷn ar ddechrau'r ŵyl, gyda disgyblion cynradd yn cymryd rhan ar ddiwedd yr wythnos.

Bydd y cystadlu yn dechrau ar ddydd Sadwrn yn hytrach na'r Llun arferol, a bydd yr Eisteddfod yn dod i ben ar ddydd Gwener yn hytrach na Sadwrn.  

Cyhoeddwyd bwriad yr Urdd i ehangu’r brifwyl o chwech i saith diwrnod yn ystod Eisteddfod yr Urdd eleni, a hynny mewn ymateb i’r cynnydd yn y niferoedd sy’n cofrestru i gystadlu, ynghyd â cheisiadau am gystadlaethau newydd meddai'r mudiad.






 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.