
Menyw o Sir Gâr wedi ei dal yng nghanol protestiadau treisgar Nepal
Mae menyw o Sir Gâr sydd yn teithio yn Nepal ar hyn o bryd wedi disgrifio ei phrofiad o fod yno wrth i'r wlad ddioddef y protestiadau gwaethaf mewn degawdau.
Fe wnaeth y protestiadau arwain at drais a llosgi bwriadol ddydd Mawrth, gyda Phrif Weinidog y wlad yn ymddiswyddo ac adeiladau'r llywodraeth yn cael eu rhoi ar dân.
Mae 30 o bobl wedi eu lladd a mwy na 1,000 o bobl wedi eu hanafu yn ystod yr anhrefn.
Mae Elisa Jenkins yn 27 oed ac yn teithio yn y wlad ar hyn o bryd.
Fe gafodd y protestiadau eu sbarduno yn dilyn penderfyniad y llywodraeth i wahardd 26 o blatfformau cyfryngau cymdeithasol yn y wlad yr wythnos diwethaf, gan gynnwys WhatsApp, Instagram a Facebook.
Fe gafodd y gwaharddiad ei godi nos Lun.
Ers hynny, mae'r protestiadau hefyd wedi cael eu hysgogi gan anhapusrwydd gyda'r elît yn y wlad.
Mae'r grwpiau 'Gen Z' sydd wedi bod yn arwain y protestiadau wedi ymbellhau eu hunain o'r difrod, gan ddweud fod pobl wedi cymryd mantais o'u rhesymau i brotestio.

Dywedodd Elisa Jenkins wrth Newyddion S4C: "Fi wedi bod yn gaeth i’r gwesty yn Pokhara am dridiau - ers dechrau y protestio yn Pokhara a Kathmandu ar y chweched o Fedi.
"I ddechrau o'dd pryderon ddim yn rhy uchel, ond wedyn troiodd y protestio o fod yn rhai heddychlon i rhai llawer fwy dangerus wedi i grŵp politicaidd gymryd mantais o’r symudiad Gen Z.
Ychwanegodd: "Ers hynny o'dd pob ffordd i adael y ddinas neu y wlad wedi eu canslo ac odd “curfews” yn eu lle.
"I ddechrau o'dd pethau yn eithaf normal yn ystod y protestio. Ond erbyn diwedd y prynhawn o'dd adeiladau ar dân, pobl yn liwtio, gynau yn cael eu saethu, ceir yn cael eu gosod ar dân a bomiau petrol.
"Erbyn yr ail ddiwrnod o'dd pobl yn liwtio a dwyn o siopau lleol."

Dywedodd Elisa fod yr awdurdodau lleol wedi cynghori pobl i aros tu fewn tan bod pethau o dan reolaeth.
"Fe wnaeth y 'Travel Authority' yma yn Kathmandu cynghori i aros tu fewn nes bod pethau dan rheolaeth ac i beidio teithio tu allan oni bai o'dd rhaid," meddai.
"Nos Fercher, ni nawr wedi cael cadarnhad bod y maes awyr wedi ei ail-agor ond bod dal curfews yn lle gan y fyddin er mwyn rheoli tensiynau gan nad oes llywodraeth mewn bodolaeth rhagor."
Ychwanegodd: "Erbyn heddi ma’r fyddin yn cerdded y strydoedd gyda tanciau a dryllau ond does dim sôn rhagor am protestio.
"Er hynny, ma' llawer dal yn cymryd mantais o’r sefyllfa ac yn dwyn neu niweidio eraill tra bod y cwrt a llywodraeth ddim mewn bodolaeth.
"Mae pobl Nepal wedi bod yn hynod gyfeillgar ac mae’r pobl lleol wedi bod yn gymwynasgar iawn ymhob man."