Cefnogaeth i'r Frenhiniaeth 'ar ei hisaf ar gofnod'

Y Teulu Brenhinol

Mae arolwg newydd yn awgrymu fod cefnogaeth i'r Frenhiniaeth 'ar ei hisaf ar gofnod'.

Mae nifer y bobl sy'n credu ei bod hi'n bwysig i gadw'r Frenhiniaeth wedi disgyn o 86%, pan gafodd y cwestiwn ei ofyn gyntaf ym 1983 gan arolwg Agweddau Cymdeithasol Prydain (BSA), i 51% yn 2024. 

Fe gafodd 4,120 o gyfweliadau gan oedolion yn y DU eu cynnwys ar gyfer yr arolwg diweddaraf rhwng 16 Medi a 27 Hydref 2024. 

Dyma'r lefel isaf o gefnogaeth sydd wedi cael ei chofnodi ers i'r Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol (NatCen) ddechrau mesur y farn gyhoeddus 40 mlynedd yn ôl.

Daw'r canfyddiadau ar drothwy ymweliad Arlywydd UDA, Donald Trump, â'r DU. 

Fe fydd y Brenin Charles yn croesawu'r Arlywydd Trump i Gastell Windsor o 17 i 19 Medi. 

Yn ôl yr arolwg diweddaraf gan NatCen, roedd un ymhob tri yn teimlo nad oedd y Frenhiniaeth yn bwysig pan gawson nhw eu holi y llynedd. 

Mae'r arolwg hefyd yn awgrymu fod 15% o'r rhai gafodd eu holi yn cefnogi cael gwared â'r Frenhiniaeth, sydd yn gynnydd o 3% ym 1983. 

'Cwestiynu ei dyfodol'

Fe gafodd cwestiwn newydd ei gynnig yn yr arolwg diweddaraf am y tro cyntaf, lle'r oedd yn rhaid i'r cyfranogwyr ddewis rhwng cadw'r Frenhiniaeth neu ei gyfnewid am Bennaeth Gwladwriaeth wedi'i ethol. 

Fe ddywedodd 58% eu bod nhw'n ffafrio cadw'r Frenhiniaeth, gyda 38% yn dweud eu bod nhw'n ffafrio Pennaeth Gwladwriaeth wedi'i ethol. 

Fe ddywedodd 64% o'r cyfranogwyr a gafodd eu holi yng Nghymru eu bod nhw'n ffafrio ethol Pennaeth Gwladwriaeth. 

Mae canlyniadau'r arolwg hefyd yn awgrymu fod cadw'r Frenhiniaeth fwyaf poblogaidd ymysg cefnogwyr pleidiau'r Ceidwadwyr a Reform (82% a 77%). 

Roedd cefnogaeth tuag at y Frenhiniaeth gryfaf ymysg y rhai a oedd yn uniaethu fel Prydeinwyr (62%) neu Saeson (68%). 

Dywedodd cyfarwyddwr ymchwil NatCen, Alex Scholes: "Mae cefnogaeth ar gyfer y Frenhiniaeth bellach er ei hisaf ers i'n cofnodion ni ddechrau, gyda mwy o bobl yn cwestiynu ei dyfodol nag erioed o'r blaen.

"Bydd y tensiwn yma yn hanfodol wrth siapio trafodaethau am rôl y Frenhiniaeth yn y blynyddoedd i ddod."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.