Super Furry Animals yn ychwanegu rhagor o nosweithiau i'w taith yn 2026

Super Furry Animals, Cardiff, August 2025

Mae’r Super Furry Animals wedi ychwanegu rhagor o nosweithiau i’w taith ar draws y DU ac Iwerddon yn 2026.

Ddydd Llun, fe wnaeth y band gyhoeddi eu bod yn ail-ffurfio yn 2026 ar gyfer eu cyngherddau cyntaf ers bron i ddegawd.

Fel rhan o’r daith Supacabra, roedd y band wedi trefnu chwe pherfformiad yn wreiddiol - yn Nulyn, Glasgow, Llandudno, Manceinion, Caerdydd a Llundain.

Cafodd rhai tocynnau ar gyfer y daith eu rhyddhau’n gynnar fore Mercher, cyn y gwerthiant cyffredinol  ar fore Gwener 3 Hydref.

Ond ar ôl gwerthu’r holl docynnau cynnar fore Mercher, mae’r band wedi ychwanegu rhagor o nosweithiau oherwydd “y galw”.

Ar ôl perfformio yno ar 8 Mai, fe fydd y band bellach yn perfformio am yr ail dro yn Glasgow ar 9 Mai.

Bydd y band hefyd yn perfformio ddwywaith yn Venue Cymru yn Llandudno -  ar 14 a 15 Mai, a dwy sioe yn yr O2 Academy Brixton yn Llundain ar 22 a 23 Mai.

Mae'r band wedi dweud y byddan nhw'n perfformio caneuon o'u naw albwm.

Ymhlith yr artistiaid fydd yn eu cefnogi ar y daith fydd Getdown Services, Honeyglaze a'r band Melin Melyn o Gaerdydd.

Fe gafodd y band ei ffurfio yng Nghaerdydd ym 1993, gyda Gruff Rhys, Huw Bunford, Guto Pryce, Cian Ciaran a Dafydd Ieuan yn aelodau.

Fe gyhoeddodd y band eu bod yn cymryd seibiant yn 2010, cyn aduno yn 2015.

Fe wnaeth y band chwarae gyda'i gilydd am y tro olaf yng Nghaerdydd yn 2016.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.