'Mor annheg': Teulu'n galw am ymchwiliad cyhoeddus i farwolaethau cleifion yn y gogledd

Edmund Jones.JPG

Mae teulu dyn 76 oed a fu farw ar ôl llawdriniaeth yn Ysbyty Glan Clwyd yn cefnogi galwadau am ymchwiliad cyhoeddus i’r niferoedd o gleifion sydd wedi marw dan ofal ysbytai'r gogledd.

Roedd teulu Edmund Jones, o’r Rhyl, wedi dweud eu bod yn teimlo bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi eu “gadael i lawr” wedi ei farwolaeth.

Roedd Mr Jones wedi ymddeol ar ôl gweithio fel peiriannydd ceir, ac wedi’i ddisgrifio fel person “gweddol heini ac iach am ei oed”, cyn iddo farw yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, yn Nhachwedd 2020.

Cafodd marwolaeth Mr Jones ei nodi mewn adolygiad hynod feirniadol o wasanaethau fasgiwlar y bwrdd iechyd.

Dywedodd John Gittins, uwch grwner Dwyrain a Chanol gogledd Cymru, ar ddiwedd cwest i'w farwolaeth yn Rhuthun: “Codwyd pryderon difrifol iawn mewn perthynas â gwasanaethau fasgiwlar yn ystod y cyfnod.”

Fe wnaeth adolygiad annibynnol o’r gwasanaethau fasgiwlar edrych ar 44 o achosion, gan gynnwys achos Mr Jones.

Fe wnaeth y crwner gofnodi casgliad naratif i’w farwolaeth.

Ar ôl cael diagnosis o anewrysm aortaidd sylweddol yn ei abdomen yn Hydref 2020, penderfynwyd bod angen llawdriniaeth ar Mr Jones,ar frys, ond nid ar unwaith.

Roedd y llawdriniaeth y “dechnegol lwyddiannus” yn ôl Mr Gittins.

Ond fe wnaeth y pensiynwr ddim gwella o’r driniaeth yn ôl y disgwyl yn yr uned gofal dwys, a bu farw ar 22 Tachwedd 2020 o ganlyniad i gyflwr achoswyd gan y driniaeth.

Dywedodd y crwner y byddai “ymchwiliadau mwy trylwyr” cyn y driniaeth wedi gwella’r tebygolrwydd o wellhad i Mr Jones, gan y byddai wedi amlygu nam cardiolegol nad oedd wedi cael diagnosis ohono’n flaenorol. 

Byddai hynny wedi gallu “arwain at opsiynau triniaeth wahanol neu drafodaeth bellach am risgiau ychwanegol.”

'Sioc enfawr'

Mewn datganiad yn ystod cwest Mr Jones, dywedodd ei fab Andrew Jones mewn datganiad: “Roedd marwolaeth ein tad yn sioc enfawr i’r teulu. Fe weithiodd yn galed drwy gydol ei fywyd.”

Roedd ei farwolaeth “mor annheg”, ychwanegodd.

“Ar ôl y llawdriniaeth, fe ddywedon nhw wrthym ni eu bod yn cadw fo i gysgu. Dywedon nhw ei fod o’n iawn.”

Dywedodd yr Athro Peter Holt, a gomisiynwyd gan y bwrdd iechyd i ymchwilio i broblemau gyda llawdriniaeth fasgiwlar yng ngogledd Cymru, nad oedd yr ysbyty wedi dilyn “arferion gorau.” 

 “Fe wnaeth hyd y llawdriniaeth gyfrannu at y canlyniad yn y pen draw.”

Roedd risg o 10% o farw o’r driniaeth yn achos Mr Jones.

'Dysgu gwersi'

Dywedodd Dr Jo Flannery, rheolwr y rhwydwaith fasgiwlar ers mis Hydref 2023, fod gweithio deuol bellach gyda meddygon yn Stoke-on-Trent.

Cafodd llawdriniaethau “A Triphlyg” (anewrysm aortaidd mewn abdomen) eu contractio allan ers mis Tachwedd diwethaf oherwydd “digwyddiadau niweidiol”.

Dywedodd Dr Flannery: “Rydym yn awyddus i ddysgu gwersi o bob digwyddiad.”

Roedd effaith pandemig Covid ar y pryd yn “enfawr” yn ogystal, medd Dr Flannery: “Newidiodd y tirwedd yn llwyr.”

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru, sydd wedi wynebu beirniadaeth am ei rheolaeth o’r GIG yng Nghymru, ddweud fod “cynnydd sylweddol” wedi’i wneud gyda’r gwasanaeth fasgiwlar.

Ar ôl y cwest dywedodd aelod o’r teulu: “Roedd hon yn drasiedi y gellid bod wedi’i hosgoi.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.