
Cymru i gamu ar gae Wembley gyda chefnogwyr sy'n byw â dementia
Bydd pêl-droedwyr Cymru yn chwarae rhan o’u gêm gyfeillgar yn erbyn Lloegr heb eu henwau ar gefn eu crysau fel rhan o ymgyrch i godi ymwybyddiaeth am ddementia.
Fe fydd y ddau dîm yn camu i’r cae yn Stadiwm Wembley yr wythnos nesaf ochr yn ochr â 22 o gefnogwyr o Gymru a Lloegr sy’n byw â’r cyflwr.
Bydd Cymru yn wynebu Lloegr ar gyfer gêm gyfeillgar yn Stadiwm Wembley yn Llundain ar ddydd Iau, 9 Hydref.
Yn ystod ail hanner y gêm fe fydd chwaraewyr Cymru yn dychwelyd i’r cae heb eu henwau ar gefn eu crysau.
Maent yn gobeithio y bydd hynny’n codi ymwybyddiaeth am symptomau dementia.
Bydd y cefnogwyr hefyd yn ymuno â’r timau ar y cae wrth iddynt ganu eu hanthemau cenedlaethol, gan alw ar bobl ar hyd a lled y DU i gefnogi’r ymgyrch a rhoi arian.
Daw fel rhan o ymdrech gan elusen Alzheimer’s Society, Y Gymdeithas Bêl-droed a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.
Ymhlith y rheiny a fydd yn ymuno â thîm Cymru bydd Chris Griffiths, sydd yn gefnogwr o glwb pêl-droed Caerdydd.

Cafodd ei enwebu gan Sefydliad Dinas Caerdydd i gymryd rhan yn yr ymgyrch, ac yn ddiweddar mae wedi cyfarfod ag un o gewri pêl-droed Cymru, Joe Ledley.
“Roedd wrth ei fodd yn ei gyfarfod,” medd ei fab, Lee. "Mae pêl-droed yn gyffredinol wedi bod yn rhan fawr o’i fywyd.”
Fe ddaeth ddiagnosis Chris yn “sioc” i’w deulu, esboniodd Lee.
Ond er gwaethaf ei gyflwr, mae Chris yn parhau wedi ei ymrwymo i’w glwb ac yn aml yn mynd i gemau Caerdydd a Chymru gyda’i frawd a Lee.
“Da ni’n hynod o ddiolchgar am y profiad y byddai’n cael yn Wembley,” ychwanegodd Lee.

'Creu hanes'
Dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney, ei fod yn bwysig i Gymru fanteisio ar eu platfform i drafod “materion pwysig.”
“Rydym yn falch i sefyll wrth ochr Alzheimer’s Society a’r Gymdeithas Bêl-droed ar gyfer foment hanesyddol yn Wembley.
“Drwy gerdded allan gyda chefnogwyr sy’n byw gyda dementia, rydym yn anfon neges glir: na ddylai neb wynebu dementia ar ei ben ei hun.”
Dywedodd Alex Hyde-Smith, Prif Swyddog Marchnata Alzheimer's Society: “Rydym yn gwybod y bydd hi’n cymryd ymdrech tîm eithafol i guro dementia.
“Fe fydd hi’n cymryd y gymdeithas gyfan i’w guro ac, fel gydag unrhyw dîm llwyddiannus, 'da ni gyd hefo rôl i chwarae.”
Lluniau: Cymdeithas Bêl-droed Cymru