Castell-nedd: Tân 'sylweddol' yn difrodi tŷ yn y dref

ITV Cymru
Tan yng Nghastell-nedd

Mae’r Gwasanaeth Tân wedi mynd i’r afael â thân mawr mewn tŷ yng Nghastell-nedd ddydd Mercher. 

Cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i dân mewn tŷ deulawr ar Deras Ffwrnais yn y dref am 10.25.

Roedd pedwar o griwiau wedi eu galw i ymateb i'r tân, gan gynnwys criwiau Castell-nedd, Port Talbot, Canol Abertawe a Threforys. 

Roedd yn rhaid iddynt ddefnyddio wyth cyfarpar offer anadlu a sawl pibell dwr er mwyn diffodd y tân, meddai llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. 

Cafodd y tŷ ei ddifrodi'n "sylweddol" ac fe wnaeth y tân achosi difrod pellach i eiddo cyfagos.

Doedd neb wedi eu hanafu yn y digwyddiad.

Fe adawodd y gwasanaeth tan yr ardal am 13.42 brynhawn ddydd Mercher.

Roedd swyddogion yn annog trigolion yn yr ardal i gadw eu ffenestri a’u drysau ar gau nes iddyn nhw fynd i’r afael â’r tân yn gynharach yn y dydd. 

Roedd swyddogion Heddlu De Cymru hefyd yn bresennol wedi iddyn nhw gael eu galw yno am 10.40 fore Mercher. 

Fe wnaeth yr heddlu gau’r ffordd i mewn i Deras Ffwrnais ger y gyffordd â Heol Herbert.

Llun: Adriana Morgan

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.