Cynnal gêm rygbi i gefnogi bachgen o Grymych sydd â thiwmor ar ei ymennydd

Prynhawn Da (newydd)
Isaac Davies

Bydd gêm rygbi arbennig yn cael ei chynnal y penwythnos nesaf i ddangos cefnogaeth i fachgen 18 oed o Sir Benfro wrth iddo dderbyn triniaeth am diwmor ar yr ymennydd.

Ar 1 Tachwedd 2024 fe gafodd Isaac Davies y diagnosis ac mae wedi bod yn derbyn triniaeth ers hynny.

Yn gapten ar dîm ieuenctid Clwb Rygbi Crymych ac yn ffermwr ifanc brwd, roedd yn fachgen heini a iach cyn cael ei ddiagnosis.

Fe ddaeth y newyddion yn sioc fawr i'w deulu a'r gymuned yng Nghrymych.

“Mae ‘di bod yn amser eitha caled, mae’r mab hyna ni Isaac wedi cael diagnosis o brain tumour nôl yn November," meddai ei fam, Sian Davies wrth raglen Prynhawn Da.

“Mae’n crwtyn eitha’ ffit, cryf, whare rygbi, ffarmo, so amser gethon ni’r diagnosis o’dd e’n sioc enfawr i ni fel teulu a i’r gymuned gyfan rili.

“O fan ‘ny mae e ‘di cael operation lan yn Caerdydd a wedyn aethon ni lan i Lundain i gael therapi proton beam am chwech wythnos, a wedyn pedwar mis o chemo."

Image
Roedd Isaac Davies yn chwaraewr rygbi brwd cyn cael y diagnosis
Roedd Isaac Davies yn chwaraewr rygbi brwd cyn cael y diagnosis

Dros y misoedd diwethaf mae Isaac wedi derbyn cefnogaeth gan sawl elusen, ac fe fydd gêm rygbi arbennig yn cael ei chwarae ar 24 Awst i godi arian i'r elusennau hynny a'r Gwasanaeth Iechyd.

Tîm Ieuenctid Crymych fydd yn herio Tîm Ieuenctid Sir Benfro ac fe fydd y dyfarnwr Nigel Owens yn cymryd rheolaeth o'r gêm.

Hefyd fe fydd arwerthiant o sawl eitem gyda'r nos a bwyd a cherddoriaeth, gyda'r arian i gyd yn mynd i'r mudiadau ac elusennau sydd wedi bod o gymorth i Isaac a'i deulu.

Fe fyddai Isaac ei hun wedi bod wrth ei fodd yn chwarae meddai ei deulu, ond mae'n dechrau ar y broses o wella wedi'r triniaethau.

“Ni ‘di cael cefnogaeth anhygoel rili gan yr NHS a’r charities i gyd sy’n helpu, so mae’r gymuned a Clwb Rygbi Crymych wedi dod a neud diwrnod i godi arian," meddai Sian Davies.

“Ni’n trio codi arian fel bod ni’n gallu rhoi rhywbeth ‘nol i’r bobl sydd wedi helpu Isaac ar ei shwrne dros y misoedd dwetha’.

“Mae Isaac yn dod nôl erbyn hyn. Mae’n fishi gyda’r physio a rehab.

“Mae e mor benderfynol ac ma wedi bod yn inspiration trwy’r holl beth.

“Dyw e ffili cerdded, mae misoedd o’i flaen e ond mae’n gweithio’n rili galed. Ni mor lwcus."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.