Cynnig sesiynau lles i oedolion drwy ddefnyddio LEGO
Fe fydd cyfres unigryw o sesiynau lles creadigol yn cael eu cynnal yn Sir Ddinbych yr hydref hwn, gyda blociau LEGO ar gael i oedolion eu defnyddio.
Bydd y sesiynau dan ofal Floss Barrett, artist blodau LEGO sydd wedi gweld lles wrth ddefnyddio'r blociau plastig ar ôl dioddef ymosodiad.
Fe ddechreuodd Floss adeiladu gyda LEGO yn dilyn ymosodiad â chyllell a’i gadawodd gydag anafiadau difrifol i’w dwy law.
Fel rhan o’i hadferiad corfforol, fe ddechreuodd ddefnyddio LEGO i ailadeiladu cryfder a symudedd yn ei bysedd, ond yn fuan fe sylweddolodd ei fod yn adnodd hollbwysig i ailadeiladu ei lles.
Mae Floss yn wirfoddolwr sy’n arbenigo ym Mlodau Botanegol LEGO ac mae’n awyddus i gyflwyno pobl eraill i’r manteision y gall yr hobi ei gynnig.
'Gofod i ddianc'
Dywedodd Floss: “Pan oeddwn i’n teimlo eithriadol o isel, rhoddodd LEGO ofod i mi ddianc. Fe ddaeth yn hafan ddiogel i mi, yn fyd lle gallwn i fod yn fi.
"Rydw i eisiau i bobl eraill deimlo’r un tawelwch, ffocws a chreadigrwydd. Bu LEGO yn help i mi wella ac rydw i wir yn credu y gall helpu pobl eraill hefyd.”
Fe fydd y sesiynau yn ymlaciol, yn gynhwysol ac ar agor i bob oedolyn i ail-fagu hyder, neu i rai sydd eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd.
Nod y sesiynau yw rhoi "hwb i les, hyder a datblygiad personol drwy bleser syml ond pwerus adeiladu Lego" meddai'r trefnwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae cefnogi pobl i deimlo’n well, i gredu yn eu hunain ac i archwilio cyfleoedd newydd wrth wraidd popeth yr ydym ni’n ei wneud. Mae Ailadeiladu a Ffynnu yn enghraifft wych o sut y gall creadigrwydd a chysylltiad ysbrydoli pobl i symud ymlaen.”