Perchnogion ffair 'wedi eu dychryn' ar ôl i 13 o blant ac oedolyn gael eu hanafu yno
Mae perchnogion ffair "wedi synnu" ar ôl i 13 o blant ac oedolyn gael eu hanafu ar atyniad ym Mhorthcawl.
Cafodd sawl plentyn eu hanafu ar atyniad y Wacky Worm ym Mharc Pleser Traeth Coney nos Fercher.
Dywedodd Heddlu’r De eu bod nhw wedi dioddef mân anafiadau wedi’r digwyddiad ac roedd yn rhaid i rai ohonynt dderbyn triniaeth yn yr ysbyty.
Roedd y parc ar gau ddydd Iau wrth i swyddogion yr heddlu a swyddogion iechyd a diogelwch barhau gyda’u hymchwiliadau.
Mewn datganiad dywedodd perchnogion y ffair nad oeddynt yn gallu rhoi sylwadau manwl ar yr hyn ddigwyddodd wrth i'r heddlu a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch barhau i ymchwilio.
"Mae rheolwyr a staff Coney Beach wedi eu dychryn a'u cynhyrfu gan ddigwyddiadau nos Fercher pan ddigwyddodd damwain ar reid a oedd yn eiddo ac yn cael ei gweithredu gan drydydd parti.
"Roedd hwn yn amlwg yn ddigwyddiad brawychus i'r teithwyr a'r teuluoedd a oedd yn bresennol ac mae ein meddyliau gyda'r plant a anafwyd ac eraill a allai fod wedi cael eu heffeithio.
"Mae Traeth Coney yn dymuno gwellhad buan i bawb, ac rydym yn diolch i'r gwasanaethau brys a fynychodd mor brydlon."