Heddlu'r Gogledd yn 'rhwystredig' gydag ymosodiadau ar dda byw
Mae tîm troseddau cefn gwlad Heddlu’r Gogledd wedi dweud eu bod yn “rhwystredig” bod ymosodiadau gan gŵn ar dda byw yn parhau yn yr ardal.
Cafodd datganiad ei ryddhau ar y cyfryngau cymdeithasol gan y llu yn dilyn ymosodiad gan gi ar ddafad yn ardal Dolwyddelan yn Sir Conwy ddydd Mercher.
Yn ôl swyddogion, mae'n “bosib iawn” na fyddai’r anifail yn goroesi’r digwyddiad ond ei bod yn derbyn triniaeth gan y ffarmwr ar hyn o bryd.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar dir fferm y ffarmwr rhwng 16.00 a 17.30 prynhawn ddydd Mercher.
Mae llygad dyst wedi disgrifio gweld ci “lliw golau” yn rhedeg ar ôl defaid yn y cae.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd llefarydd ar ran y llu: “Er gwaethaf ymdrechion i godi ymwybyddiaeth o wir effaith amharu â da byw, ac er mawr rhwystredigaeth, mae ymosodiadau o’r fath yn parhau.
“Unwaith eto dyw perchnogion cŵn ddim yn cysylltu gyda’r heddlu chwaith.”
Mae’r llu wedi dweud eu bod yn apelio am fwy o wybodaeth ac yn annog unrhyw un all fod o gymorth i gysylltu drwy ddyfynnu’r cyfeirnod C125313.