
'Aeth e trwy uffern': Dyn yn rhannu profiad ei dad-cu fel carcharor rhyfel
'Aeth e trwy uffern': Dyn yn rhannu profiad ei dad-cu fel carcharor rhyfel
80 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth dros Japan mae dyn o Borth Tywyn wedi rhannu profiadau ei dad-cu oedd yn garcharor rhyfel yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Roedd Alun Merydd Evans yn garcharor rhyfel yn Burma.
Mewn cyfweliad arbennig ar raglen Heno mae ei ŵyr Alun Thomas yn rhannu hanes ei dad-cu ac yn darllen darnau o’i ddyddiadur am y tro cyntaf.
Prin iawn y bu ei dad-cu yn siarad am ei brofiadau a’r cyfnod tywyll hwnnw yn ei fywyd.
Ond, ar ôl ei farwolaeth, daeth y teulu i wybod y gwirionedd erchyll wrth ddarganfod dyddiaduron, llythyrau, cofnodion meddygol ac erthyglau amdano.
Mae Alun yn sôn am ei dad-cu a milwyr eraill yn dianc cyn cael eu darganfod ar ynys anghysbell.
“Wnaethon nhw dianc ar life raft a rhwyfo am 12 awr," meddai.
“Ffeindion nhw ynys, totally uninhabited a wnaethon nhw byw ‘na am wythnos.
“Ffindodd y Dutch nhw, a wnaethon nhw esgorto nhw i’r mainland.
“A allies o’n nhw cofia. A dywedodd y Dutch ar y pryd bydden nhw’n mynd â nhw i’r west coast i safety.
“Ond yn anffodus twyll o’dd hwnna."

Nid oedd y milwyr wedi cael eu cludo i dir diogel.
Daeth Alun Merydd Evans a sawl milwr arall yn garcharorion rhyfel yng Ngharchar Moulmein, Burma.
“Ar ôl cyrraedd, wnaeth y Dutch ddweud ‘hand over your firearms, you are now residents of the Japanese Imperial Army'.
“1942 dechreuodd adeg aeth tad-cu fi trwy uffern.”
Cafodd gwasanaeth arbennig ei gynnal yng Nghaerdydd ddydd Iau wrth Gofeb Ryfel Genedlaethol Cymru er mwyn anrhydeddu cyn-filwyr Cymreig a wasanaethodd yn Asia a'r Môr Tawel yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Roedd Huw Irranca-Davies AS, y Fonesig Nia Griffiths a Masaki Ikegami, Dirprwy Lysgennad Llysgenhadaeth Japan yn y DU yn bresennol.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies: "Rydym yn anrhydeddu cyn-filwyr Cymru a phawb a wasanaethodd yn Asia a'r Môr Tawel yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
"Wrth i ni nodi 80 mlynedd ers y dyddiad hwn, rydym yn cofio nid yn unig eu gwasanaeth, ond hefyd bwysigrwydd cymod.
"Rhaid i ni sicrhau nad yw eu straeon na'u haberth byth yn cael eu hanghofio, fel y gall cenedlaethau'r dyfodol ddeall gwir gost rhyfel a gwerth heddwch."
Fe fydd cyfweliad Alun Thomas ar raglen Heno nos Wener ar S4C