Arestio gyrrwr fan Tesco ar ôl marwolaeth dynes oedrannus ym Mangor
Mae gyrrwr fan Tesco wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus ar ôl gwrthdrawiad ym Mangor.
Cafodd yr heddlu eu galw i Fryn Garth yn y ddinas toc wedi 12.00 ddydd Llun yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad rhwng cerddwraig a fan Tesco.
Cafodd y gwasanaethau brys, gan gynnwys yr Ambiwlans Awyr, eu galw i'r lleoliad a cafodd y ffordd ei chau ar unwaith.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw'r ddynes oedrannus yn y fan a'r lle. Mae ei pherthnasau agosaf wedi cael gwybod.
Mae gyrrwr 33 oed y fan wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.
Mae'n parhau yn y ddalfa wrth i'r heddlu ymchwilio i'r digwyddiad.
Mae'r crwner wedi cael gwybod ac mae'r ffordd wedi'i hailagor bellach.
Apêl am wybodaeth
Dywedodd y Rhingyll 3162 Evans o'r Uned Troseddau Ffyrdd fod yr heddlu'n apelio am wybodaeth.
"Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r fenyw yn yr amser anodd hwn," meddai mewn datganiad.
"Hoffem siarad ag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu a welodd y cerddwr neu'r cerbyd yn yr eiliadau cyn y digwyddiad i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl."
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth, neu luniau deledu cylch cyfyng, gysylltu â'r llu gan ddyfynnu'r cyfeirnod C151796