Pryder am ddyfodol Cwmni Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg wedi hanner canrif

Newyddion S4C

Pryder am ddyfodol Cwmni Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg wedi hanner canrif

Mae hanner canrif wedi mynd heibio ers i Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg agor ei drysau am y tro cyntaf – cwmni sydd wedi chwarae rhan ganolog yn natblygiad diwylliant a theatr yn ne Cymru, ac wedi meithrin rhai o enwau mwyaf adloniant y wlad.

Mae’r rhestr o gyn-aelodau’n drawiadol. O’r dramodydd a chynhyrchydd teledu Russell T Davies, i’r actorion Michael Sheen, Steffan Rhodri  a Joanna Page, mae’r cwmni wedi bod yn fan cychwyn i filoedd o bobl ifanc dros y degawdau.

“Wel y gwir yw bydden i ddim yn actor 'sa fe ddim am Gwmni Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg,” meddai Steffan Rhodri.

“1983 ne' rhywbeth fel 'na o'n i yna, yr un adeg a Russel T Davies sy' 'ma rhywle, Michael Sheen. Ond y'n ni gyd yn talu teyrnged i'r cwmni a'r dyled sydd gyda ni i'r cwmni a'r dechreuad 'gaethon ni yn y cwmni 'na.”

Image
Russell T Davies
Russell T Davies

Ond er gwaethaf yr atgofion cynnes a’r balchder, mae pryderon am ddyfodol y cwmni. Mae heriau ariannol yn fygythiad gwirioneddol i’r sefydliad, sydd bellach yn dibynnu ar roddion ac ymdrechion gwirfoddolwyr i oroesi.

Dywedodd Russell T Davies: “Fe wnaeth y lle hwn fy ngwneud i'n union pwy ydw i heddiw, ac ysbrydolodd bopeth rwy’n ei wneud. 

"Ysgrifennais fy nramâu cyntaf tua phymtheg oed ar gyfer Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg. Roedd hynny yn ôl pan oedd arian yn cael ei wario ar y celfyddydau yn yr ysgolion.

"Mae’n anodd – mae’n rhaid i chi frwydro drwy’r amser, ac rŵan rydych chi yn yr un sefyllfa eto. Does dim arian – dim ond rhoddion sy’n cadw’r cwmni i fynd.

"Mae’n fy mhryderu fod pawb mor falch o’u timau pêl-droed a rygbi, ond dylem fod yr un mor falch o gynnal drama ysgol. Mae hynny yr un mor bwysig.”

Image
Alys Jones
Alys Jones

'Ymroddiad'

Mae aelod presennol, Alys Jones, yn gobeithio gallu parhau yn y cwmni am flynyddoedd i ddod.

“Ma gynno ni ffydd yn y cwmni, bydd e yn cario 'mlaen," meddai.

"Ond ma' angen i rhywbeth i newid. Ma' amgen i fod mwy o arian yn y celfyddydau yn gyfan gwbl. Yn enwedig yn y ieuenctid.”

Ma‘ ‘na alwad, felly, i ddychwelyd i’r system o ariannu trwy Awdurdodau Lleol – system a oedd yn cynnal a chadw’r cwmni yn y gorffennol. A Steffan Rhodri yn awyddus i weld y system yn dychwelyd.

“Wel, o'n i yn y cwmni ar adeg lwcus iawn, oedd y cwmni yn cael ei ariannu gan yr awdurdod lleol," meddai.

"Wrth gwrs, mae'r awdurdod Gorllewin Morgannwg wedi rhannu nawr rhwng Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, ac wrth gwrs ma' darpariaeth ar gyfer y celfyddydau yn gyffredinol wedi dirywio, wedi torri yn syfrdanol.

“Heb yr ymroddiad ma' pobl yn rhoi a codi arian at y cwmni, byddai'r cwmni wedi cau a wedi gorffen amser hir yn ôl. 

"Ond bydden i'n awgrymu bod y darpariaeth 'na gyda'r awdurdod lleol yn rhywbeth sydd yn holl bwysig. 

"Nid yn unig i blant yr ardal sydd yn cael y budd o fod yn y cwmni, ond ar gyfer y celfyddydau yn gyffredinol ac ar gyfer y gymuned yn gyffredinol.”

Image
Cacen

Ymateb

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Abertawe eu bod yn “parhau i hyrwyddo’r celfyddydau ac yn gweithio gyda phartneriaid fel Theatr Genedlaethol Cymru i ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc.”

Ychwanegodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot eu bod yn “cydweithio â Chyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru i sicrhau cyllid i’r sector.”

Felly, wrth i’r cwmni ddathlu ei ben-blwydd yn 50 oed, mae’r cwestiwn yn parhau: beth am yr hanner canrif nesaf?

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.