Super Furry Animals yn cyhoeddi eu bod yn ail-ffurfio

Super Furry Animals

Mae Super Furry Animals wedi cyhoeddi y byddan nhw yn ail-ffurfio yn 2026 ar gyfer eu cyngherddau cyntaf ers bron i ddegawd.

Mae'r band wedi bod yn rhannu negeseuon cryptig ar eu cyfryngau cymdeithasol dros y dyddiau diwethaf, gan arwain nifer i ddyfalu eu bod yn dychwelyd i berfformio.

Roedd y negeseuon yn cynnwys clipiau o'r darlunydd Hannah Black yn creu darlun o greadur arallfydol ar draeth Llanddona, Ynys Môn.

Fore Llun, daeth cadarnhad y bydd y band yn perfformio am y tro cyntaf ers 2016, gyda taith mewn sawl lleoliad yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Enw'r daith fydd Supacabra.

Bydd y daith yn cynnwys chwe chyngerdd, gan gychwyn yn Nulyn ar 3 Mai 2026.

Yna byddan nhw'n teithio i Glasgow, Llandudno, Manceinion a Chaerdydd, cyn gorffen y rhediad yn Llundain ar 22 Mai.

Mae'r band wedi dweud y byddan nhw'n perfformio caneuon o'r naw albwm.

Ymhlth yr artistiaid fydd yn eu cefnogi ar y daith fydd Getdown Services, Honeyglaze a'r band Melin Melyn o Gaerdydd.

Bydd tocynnau ar gyfer y daith yn mynd ar werth ddydd Gwener 3 Hydref.

Fe gafodd y band ei ffurfio yng Nghaerdydd ym 1993, gyda Gruff Rhys, Huw Bunford, Guto Pryce, Cian Ciaran a Dafydd Ieuan yn aelodau.

Fe gyhoeddodd y band eu bod yn cymryd seibiant yn 2010, cyn cael aduniad yn 2015.

Fe wnaeth y band chwarae gyda'i gilydd am y tro olaf yng Nghaerdydd yn 2016.

Super Furry Animals yw'r band diweddaraf o'r 1990au i ailffurfio yn ddiweddar, gydag Oasis yn perfformio ar draws y byd eleni a bandiau eraill fel Pulp a Supergrass hefyd yn dychwelyd i'r llwyfan.

Dyddiadau'r daith:
Dulyn - 3 Olympia - 4 Mai 2026
Glasgow - Barrowlands - 8 Mai 2026
Llandudno - Venue Cymru - 14 Mai 2026
Caerdydd - Utilita Arena - 16 Mai 2026
Manceinion - o2 Apollo - 21 Mai 2026
Llundain - o2 Academy Brixton - 22 Mai 2026

Llun: Super Furry Animals

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.