Ewrop yn curo'r Cwpan Ryder er i'r UDA daro yn ôl
Mae tîm Ewrop wedi ennill y Cwpan Ryder er i dîm yr UDA daro yn ôl ar ddiwrnod olaf y chwarae.
Roedd Ewrop yn gryf yn ystod dau ddiwrnod cyntaf y gystadleuaeth gan arwain gyda saith pwynt cyn y sesiwn olaf.
Ond roedd y diwrnod olaf yn un llawn tensiwn wrth i America daro yn ôl.
Roedd 12 chwaraewr o'r ddau dîm yn cystadlu mewn gêm unigol yn erbyn gwrthwynebydd o'r tîm arall ddydd Sul.
Ac er iddi fod yn agos daeth buddugoliaeth i Ewrop yn y diwedd yn gêm rhif 10 ar ôl i Tyrrell Hatton lwyddo i sicrhau bod gan Ewrop 14 pwynt a hanner.
Cafodd y gystadleuaeth ei chynnal yn Efrog Newydd ac roedd y dorf yn swnllyd ac yn ddilornus tuag at chwaraewyr y gwrthwynebwyr.
Dywedodd Rory McIlroy a gafodd ei heclo bod yr amodau yn "heriol iawn" tra bod Hatton wedi dweud mai dyma oedd un o'r "diwrnodau anoddaf" iddo brofi ar y cwrs golff.
Dyma'r tro cyntaf ers 2012 i Ewrop guro oddi cartref.
Llun: BILDBYRÅN via Reuters Connect