Scott Quinnell: 'Y Llyfrgell Genedlaethol yn ddathliad o bopeth sydd yn Gymreig'
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 'ddathliad o bopeth sydd yn Gymreig' yn ôl cyn-chwaraewr rygbi Cymru a'r Llewod Scott Quinnell.
Fe fydd Scott Quinnell yn ymddangos yn y gyfres ddiweddaraf o Gyfrinachau'r Llyfrgell, gan ddilyn cyn Brif Weinidog Cymru Mark Drakeford a’r Fonesig Siân Phillips ar daith drwy'r archifau.
"Nes i weld y gyfres gyntaf ac fe wnes i garu'r syniad ohono, ac i fod yn onest, roedd llawer ohono am y cyfle i fynd i weld y Llyfrgell. Dwi wedi bod i Aberystwyth sawl gwaith a dwi'n cofio gweld y Llyfrgell a chlywed dipyn amdano," meddai wrth Newyddion S4C.
"Dwi ddim yn academic, do'n i erioed wedi cael esgus i fynd yna o'r blaen ond mae'n arbennig."
"Byddwn i'n annog unrhyw un sy'n cael y cyfle i fynd i fynd, mae'n anhygoel."
Roedd Scott yn awyddus i ddysgu ychydig am ei deulu yn ystod ei gyfnod yn y Llyfrgell, gan gynnwys ei atgofion am ei arwr 'Grandpa Stan'.
Roedd Stanley Quinnell yn filwr yn yr Ail Ryfel Byd, ac fe wnaeth rannu ei brofiadau ar ôl dychwelyd adref.
"Roedd o'n emosiynol iawn," meddai Scott.
"Nes i ddysgu hefyd am sut y gwnaeth y Cymry hefyd oroesi'r rhyfel. Mae'n stori bwerus iawn."
Mae Scott wedi siarad yn gyhoeddus yn y gorffennol am y ffaith ei fod yn ddyslecsig, ac mae'n cael cyfle i archwilio hyn yn bellach yn y Llyfrgell.
"Dwi'n meddwl am ddyslecsia a fi'n dod trwy'r system yn yr 80au hwyr a'r 90au cynnar, doedd dim llawer o bobl yn siarad amdano adeg hynny, ond pan 'dych chi'n edrych ar y dogfennau, mae'n mynd yn ôl yn bellach na fyddech chi fyth yn ei ddychmygu," meddai.
"Fel 'dan ni'n weld yn y rhaglen, mae wedi bodoli ers amser hir."
Mae argraffiadau Scott o'r Llyfrgell Genedlaethol wedi newid yn fawr yn dilyn ei brofiad yno.
"Dych chi'n gweld bob dim sy'n ein gwneud ni fel cenedl Gymraeg a gwlad, mae popeth mewn un lle, mae o'n lle pwerus iawn i fod," meddai.
"Dych chi'n meddwl am y llyfrgell fel jyst un peth ond mae'n ddathliad o bopeth sydd yn Gymreig..o'r da i'r drwg a phopeth rhwng hynny, mae'n brofiad diwylliedig na fyddwch chi fyth yn ei brofi cyn i chi fynd yno a fyth eto - mae'n le ysbrydoledig."
Ychwanegodd: "Pan 'dych chi'n gweld y campau y Cymry wrth fynd yn ôl cannoedd, miloedd o flynyddoedd yn ôl, mae'n gwneud i chi deimlo yn falch iawn."
"Dwi ddim yn gwybod pam mewn ffordd nad ydym ni'n dathlu a rhoi mwy o sylw i gampau y bobl ddaeth o'n blaenau ni."
Fe fydd y bennod gyda Scott Quinnell yn cael ei darlledu nos Fawrth am 21:00 ar S4C.