Caerdydd: Arestio dyn yn dilyn gwrthdrawiad ffordd

Heol Trelai

Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dyn yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Dywedodd y llu fore Sul eu bod nhw wedi arestio dyn 18 oed ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol ac achosi niwed difrifol trwy yrru’n beryglus.

Mae’r dyn wedi ei gadw yn y ddalfa.

Daw hyn yn dilyn gwrthdrawiad ar Heol Trelái yn ardal Caerau o’r brifddinas yn oriau mân fore dydd Sadwrn.

Cafodd yr heddlu eu galw yn dilyn adroddiadau fod car wedi gwrthdro â nifer o gerddwyr.

Ychwanegodd y llu eu bod nhw’n credu bod tri o bobl wedi eu taro gan y car gydag un ohonyn nhw wedi “dioddef anafiadau difrifol allai newid bywyd”.

Dywedodd y llu ddydd Sul fod un person yn dal yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.

Roedd cordon yr heddlu yn yr ardal a bu’n rhaid cau’r ffordd am rai oriau rhwng Lôn Caerau a Ffordd yr Eglwys.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 25000309439.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.