
‘Ffenest Cymru’: Alabama yn ysbrydoli arddangosfa newydd yn y brifddinas
Mae ymateb un Cymro i drais hiliol yn Alabama yn yr UDA wedi ysbrydoli arddangosfa newydd ym mhrifddinas Cymru.
Mae’r arddangosfa newydd, ‘Gwneud Pethau’n Iawn’, a agorodd ym Mae Caerdydd yn gynharach fis yma, wedi ei ysbrydoli gan Ffenestr Cymru a gafodd ei osod mewn eglwys yn Birmingham, Alabama yn 1965.
Fis Medi 1963, cafodd yr Eglwys Bedyddwyr ar 16th Street yn y dref ei bomio gan ladd pedair merch ddu ifanc, a dinistrio'r ffenestr lliw oedd yno.

Mewn ymateb, fe wnaeth John Petts - artist o Lansteffan, Sir Gaerfyrddin - greu y ffenestr lliw ar gyfer yr eglwys.
Mewn cyfweliad ag ITV Cymru Wales, fe wnaeth mab John Petts, Mick, sôn am symboliaeth y ffenest eiconig:
“Mae Iesu Grist yno wedi ei gynrychioli, fel Americanwr-Affricanaidd du.
“Mae’r dwylo sy’n gwthio casineb i ffwrdd ac yn atal trais, ac sy’n estyn llaw o gariad, yr un mor berthnasol heddiw ag oedden nhw ar y pryd.”

Fwy na 60 mlynedd ers y bomio, mae’r Water Poets ac Ysgol Gelf Caerfyrddin wedi cydweithio er mwyn creu ymateb creadigol newydd i Ffenest Cymru.
Fel rhan o’r prosiect, fe wnaeth y Water Poets ymweld ag ysgolion ledled Sir Gaerfyrddin i gyflwyno’r hanes.
Cafodd yr ysgolion gyfle i ymateb gyda gweithiau celf oedd yn efelychu rhannau o Ffenest Cymru yn eu ffyrdd eu hunain.

Ymhlith y myfyrwyr sydd wedi cyfrannu at yr arddangosfa mae Elain Fflur, 22.
Fe wnaeth Elain ymweld ag Eglwys Bedyddwyr 16th Street y llynedd gydag Ysgol Gelf Caerfyrddin, yn y gobaith o ymateb i’r profiad mewn modd creadigol.
Wrth drafod ei gwaith, dywedodd Elain: “Fe wnes i geisio defnyddio gofod negyddol yr Iesu.
“Fe wnes i hefyd glystyru’r potiau er mwyn cyfleu’r cymunedau yno.
“Yna, fe wnes i sleisio rhai o’r potiau yn eu hanner i ddangos pa mor fregus mae bywyd yn gallu bod.”
Wrth adlewyrchu ar waddol ffenest ei dad, dywedodd Mick Petts: “Byddai fy nhad i’n dweud bod gennym ffenestri gwydr lliw mewn eglwysi canoloesol sy’n 600 mlwydd oed.
“Dyna natur y deunydd… mae’n para am ganrifoedd a chanrifoedd.” meddai Mick.
Bydd arddangosfa ‘Gwneud Pethau’n Iawn’ yn adeilad Y Pierhead ar agor tan 1af Tachwedd, 2025.