Caernarfon i wynebu Met Caerdydd yn y Cymru Premier JD
Gyda dim ond un colled mewn 10 gêm ym mhob cystadleuaeth, mae hi wedi bod yn gychwyn ardderchog i’r tymor i Gaernarfon sy’n dechrau’r penwythnos yn hafal ar bwyntiau gyda’r Seintiau Newydd ar frig y tabl.
Caernarfon yw prif sgorwyr y gynghrair y tymor hwn gyda 27 o goliau, ac Adam Davies sydd wedi sgorio wyth o rheiny, gan greu pump i’w gyd-chwaraewyr hefyd.
Mae'n bendant heb fod y dechrau delfrydol i’r tymor i Met Caerdydd sydd yn dal heb ennill gêm gynghrair y tymor hwn.
Gorffennodd hi’n gyfartal 2-2 yn y gêm gyfatebol ar Gampws Cyncoed ar benwythnos agoriadol y tymor gydag arwr Caernarfon, Darren Thomas yn cipio pwynt i’r Cofis yn yr eiliadau olaf.
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ͏➖✅✅❌✅
Met Caerdydd: ͏❌❌➖❌❌