India: O leiaf 39 wedi marw mewn rali wleidyddol yn India
Mae o leiaf 39 o bobl wedi marw, gan gynnwys plant, mewn rali wleidyddol yn nhalaith Tamil Nadu yn ne India.
Roedd degau o filoedd o bobl wedi ymgynnull ddydd Sadwrn mewn digwyddiad ymgyrchu ar gyfer yr actor a drodd yn wleidydd Vijay, yn ardal ddeheuol Karur.
Yn ôl adroddiadau roedd pobl yn llewygu yn y dorf.
Dywedodd Prif Weinidog Tamil Nadu, MK Stalin, fod y marwolaethau yn cynnwys o leiaf 17 o fenywod, 13 o ddynion a naw o blant.
Roedd 51 o bobl eraill yn derbyn triniaeth, meddai.
Ychwanegodd fe fydd ymchwiliad i'r digwyddiad a bydd iawndal o filiwn rupees (£8,400) yn cael ei ddarparu i deuluoedd y meirw.
Dywedodd Prif Weinidog India, Narendra Modi, fod y digwyddiad yn "anffodus" ac yn "drist iawn".
Llun: Reuters