Cwpan Ryder: Ewrop yn rheoli ar ddiwedd yr ail ddiwrnod

McIlroy / Lowry

Wedi ail ddiwrnod llawn tensiwn yng Nghwpan Ryder yn Efrog Newydd, Tîm Ewrop sydd yn parhau ar y blaen, a hynny gyda mantais sylweddol.

Mae Ewrop bellach ar y blaen o 11½-4½ cyn y diwrnod olaf ddydd Sul, lle y bydd y 12 chwaraewr o'r ddau dîm yn cystadlu mewn gêm unigol yn erbyn gwrthwynebydd o'r tîm arall ddydd Sul. 

Mae Ewrop angen sgôr o 14 i gadw Cwpan Ryder, ac yn gobeithio am eu buddugoliaeth oddi cartref gyntaf ers 2012. 

Fe fydd angen sgôr o 14½ ar dîm yr Unol Daleithiau os ydyn nhw am ennill gan taw Ewrop yw'r deiliaid.

Mae'r gystadleuaeth eleni yn cael ei chynnal yn Efrog Newydd.

Luke Donald ydy capten Tîm Ewrop, a Keegan Bradley ydy capten tîm America.

Fe lwyddodd Rory McIlroy a Shane Lowry i sicrhau mai'r golff, yn hytrach nag ymateb y dorf, oedd yn gwneud y siarad.

Fe gafodd y ddau gyfnodau o rwystedigaeth yn ystod y dydd ddydd Sadwrn, gyda'r dorf yn ceisio effeithio ar eu perfformiadau ar y cwrs drwy weiddi tra'r oedden nhw yn chwarae.

Fe ddywedodd capten Tîm Ewrop Luke Donald: "Yr hyn dwi'n ei ystyried sydd yn croesi'r llinell ydy sarhad personol a gwneud synau pan mae'n nhw'n ceisio taro'r bêl.

"Mae'n rhywbeth y gwnaethom ni baratoi amdano, a dwi'n gallu gweld pa mor dda y gwnaeth McIlroy a Lowry ddelio efo hyn."

Roedd y tensiwn hefyd yn amlwg yn y gêm rhwng Justin Rose, Tommy Fleetwood o Dîm Ewrop a Bryson DeChambeau a Scottie Scheffler o Dîm America. 

Roedd Rose yn anhapus fod caddie DeChambeau yn rhy agos ato wrth iddo daro'r bêl yn y 15fed twll, gan arwain at anghytuno.

"Fe wnes i ofyn iddo symud. Efallai ddim mor barchus â'r hyn y ddyliwn i fod wedi, ond mae pethau yn danbaid allan yno," meddai Rose.

Roedd presenoldeb swyddogion heddlu yn bresennol yn y gemau brynhawn Sadwrn yn sgil y tensiynau gyda'r dorf. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.