Llywodraeth y DU i roi cefnogaeth ariannol i Jaguar Land Rover
Mae disgwyl i Lywodraeth y DU roi cefnogaeth ariannol o £1.5bn i Jaguar Land Rover (JLR) mewn ymgais i gefnogi ei gyflenwyr wrth i ymosodiad seiber barhau i atal cynhyrchu.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes Peter Kyle y byddai'r llywodraeth yn gwarantu benthyciad, gan fanc masnachol, fydd yn amddiffyn swyddi yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, Glannau Merswy ac ar draws y DU.
Mae'r gwneuthurwr wedi cael ei orfodi i atal cynhyrchu ers wythnosau ar ôl cael ei dargedu gan hacwyr ddiwedd Awst.
Mae yna bryderon y gallai rhai cyflenwyr, yn bennaf busnesau bach, fynd i'r wal yn sgil y trafferthion.
Mae tua 30,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn uniongyrchol yng ngweithfeydd y cwmni yn y DU, gyda thua 100,000 yn gweithio i gwmnïau yn y gadwyn gyflenwi.
Maen nhw’n cynnwys cwmni brêcs ZF Automotive UK Ltd ym Mhont-y-pŵl, a dderbyniodd £423,000 gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin.
Defnyddiwyd yr arian hwnnw i ddiweddaru eu llinell gynhyrchu ar gyfer cytundeb â Jaguar Land Rover.
Fel arfer, byddai JLR yn disgwyl adeiladu mwy na 1,000 o geir y dydd mewn tair ffatri yn Solihull a Wolverhampton yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, a Halewood ar Lannau Merswy.
Nid oes yna unrhyw geir wedi cael eu hadeiladu fis Medi, ac mae'r cwmni wedi rhoi'r gorau i wneud archebion gyda 700 o'i gyflenwyr.
Y gred yw mai dyma'r tro cyntaf i gwmni dderbyn cymorth gan y llywodraeth o ganlyniad i ymosodiad seiber.
Nid oes i disgwyl i gynhyrchiant ail-ddechrau tan 1 Hydref ar y cynharaf.