'Mudiad i Gymru': Lansio gwefan yn y Gymraeg i gynnig cymorth i bobl â chanser
'Mudiad i Gymru': Lansio gwefan yn y Gymraeg i gynnig cymorth i bobl â chanser
"Fyswn i byth wedi cysidro neud o mewn unrhyw iaith arall."
Dyna eiriau Elen Hughes o Fôn sydd ar fin lansio gwefan yn y Gymraeg i gefnogi pobl sydd wedi derbyn diagnosis o ganser.
Fe dderbyniodd Elen o Lansadwrn, ddiagnosis o ganser y fron yn 37 oed, a hithau yn fam i dri o blant.
"O'n i'n 37, o'n i'n brysur ac mewn adeg ofnadwy o hapus o fy mywyd, oedd bob dim ar ei orau, a aeth hi'n fflimp un noson," meddai wrth Newyddion S4C.
"O'n i'n gwylio teledu a to'n i ddim yn checio fy hun a nes i ffeindio lwmp. A lwcus ofnadwy achos bo fy GP i yn un da iawn, mi naeth hi adael fi fynd trwy'r broses yn ofnadwy o sydyn a mi ges i fy diagnosio yn 37 efo lobular cancer."
Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach yn 2016, a hithau yn 44 oed, cafodd hi ddiagnosis o ganser y fron gradd pedwar.
"Os oedd fy myd i wedi crymblo cynt, a'th o'n rwtch ratch tro 'ma," meddai Elen.
"O'n i yn wir meddwl bo' fi'n mynd i farw, dyna oedd y neges ges i mewn ffordd, y neges oedd fod gen i ryw dwy i dair blynedd i fyw."
Ychwanegodd: "Ond be nes i oedd meddwl 'Dwi yma heddiw...fydda i yma fory, chances ydi fydda i yma diwrnod wedyn felly pam dwi'n gwastraffu heddiw yn meddwl am fory ac yn poeni?'
"Dwi 'di bod yn lwcus iawn - dwi'n gadarn iawn fy ffydd, dim ffydd o ran crefydd, ond mewn natur, mewn teimlo'n dda am fi fy hun, mewn bod yn ffeind, bod yn ddiolchgar."
Gobaith
Mae Elen wedi sefydlu wefan a fydd y cynnig cefnogaeth yn y Gymraeg i bobl sydd wedi wynebu diagnosis o ganser, ac fe fydd y wefan 'Ffynnu' yn lansio ddydd Gwener nesaf.
"Stori ‘Ffynnu’ ydi wrth gwrs bo’ fi wedi cael fy diagnosio hefo canser y fron yn 37 oed, ag o’r pwynt yna, mi nath fy mywyd i newid yn llwyr, a mi ddaeth o yn ôl yn anffodus yn 2016 ag oedd y prognosis adeg hynny reit wael," meddai Elen.
"Ryw ddiwrnod o’n i’n meddwl ‘Be ‘sa ’di bod yn help i fi pan o’n i yn mynd trwy hyn?’ ag yr ateb ydi hefo fi, y we.
"Ma’r we yn gallu agor y byd i fyny, be oedd y we ddim yn gallu gynnig oedd gwasanaethau Cymraeg, mi oedd ‘na ddigon o wasanaethau o bob rhan o’r byd ar gael, ‘chydig iawn yn Gymraeg."
'Diolch am Nia'
Fe ddaeth y syniad gan Elen, ac fe wnaeth estyn allan at bobl eraill i weld os fyddai gan unrhyw un arall ddiddordeb cydweithio â hi.
Fe ddangosodd Nia Elain Roberts o Landwrog ger Caernarfon ddiddordeb yn y syniad, ac mae'r ddwy bellach wedi bod yn cydweithio ers misoedd i sefydlu'r wefan a'r holl adnoddau.
Fe gafodd Nia ddiagnosis o ganser y fron ym mis Tachwedd 2023 yn 46 oed.
"Diolch byth am Nia, achos ma' hi bellach yn rhan fawr iawn o Ffynnu," meddai Elen.
'Mudiad i Gymru'
Er mai canolbwyntio yn bennaf ar ganser y fron y mae'r wefan ar hyn o bryd, y gobaith ydy cynnig cymorth i bob math o ganser yn y pen draw.
"Oedd o'n haws i ni ddechra' mewn un lle, ond y bwriad ydi fod o ar gyfer pob canser," meddai Elen.
"Munud ma'r gair canser wedi cael ei roi ym mhen rywun yn anffodus, tydi bywyd ddim yr un fath wedyn. Does 'na ddim teimlad gwaeth, ond peidiwch â gadael idda fo eistedd ar eich ysgwydd chi ar ben eich hunain.
"Dewch at Ffynnu - ymunwch hefo ni, beth am wneud o'n fudiad i Gymru i gael y neges yna allan fod na obaith?"
Fe fydd y wefan yn cynnig amryw o adnoddau a fydd yn gallu cefnogi pobl sydd wedi derbyn diagnosis, yn ogystal â chynnig gobaith yn ôl Elen.
"Mi allan nhw agor Ffynnu.cymru fyny a mi fydd ‘na lu o wybodaeth mi fydd ‘na wybodaeth o ran signpostio lle i fynd nesa, mi fydd ‘na wybodaeth am ddeunydd Cymraeg, mi fydd bob dim arni hi yn Gymraeg heblaw am y linciau," meddai.
"Mi gewch chi hefyd weld pobl eraill sydd ‘di bod yn yr un predicament â chi, dwi’m yn galw fo’n dwll dim mwy, ond predicament a mi gewch chi weld bod y bobl yma dal yn ffynnu trwy’r cwbl ma’ genno chi syth trwadd o bobl mor ifanc, oedolion mor ifanc, i oedolion hŷn a ma’ genna i fi a Nia yn y canol yn rw’la ‘lly.
"Tydan ni ddim i fod ar ben ein hunain, tydi pobl ddim yn ffynnu ar ben eu hunain gystal ag ydyn nhw efo cwmni."