Disgybl o Ysgol Hafod Lon yn gwireddu breuddwyd gyda swydd yn y maes hamdden

Disgybl o Ysgol Hafod Lon yn gwireddu breuddwyd gyda swydd yn y maes hamdden

Mae disgybl o ysgol ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol yng Ngwynedd wedi gwireddu breuddwyd drwy gael swydd gyflogedig mewn canolfan hamdden.

Cafodd Guto Jones, 18, sy'n ddisgybl yn Ysgol Hafod Lon ym Minffordd, gyfle i fynd ar brofiad gwaith yng Nghanolfan Hamdden Dwyfor.

Roedd yn rhan o gynllun Cyfleoedd Gwaith Cyngor Gwynedd sy'n gweithio gyda chwmnïau'r ardal i roi profiadau i bobl gydag anableddau.

O fewn tri diwrnod gyda chwmni Byw'n Iach, cafodd Guto gynnig swydd gyflogedig yn y ganolfan hamdden ym Mhwllheli yn ystod gwyliau ysgol.

"O'n i mor hapus achos does 'na ddim gymaint o bobl yn llwyddiannus ar y trydydd diwrnod i gael contract," meddai wrth Newyddion S4C.

"Dw i'n neud yr un un peth mae staff eraill yn neud, ond dw i mewn cadair olwyn a does 'na'm byd yn mynd i stopio fi rhag neud hynny."

'Diolch byth am gadair olwyn'

Cafodd Guto ddiagnosis o glefyd Charchot-Marie-Tooth yn 14 oed.

Mae'r clefyd yn cyfeirio at grŵp o gyflyrau etifeddol sy'n niweidio'r nerfau ymylol sydd fel arfer yn dechrau ymddangos rhwng 5 ac 15 oed.

"Dydi negeseuon o fy mhen ddim yn cyrraedd y nerfau yn fy nghoesau, so mi fedra i gerdded ond ddim yn bell," meddai Guto.

"Dyna pam neshi ddechrau defnyddio cadair olwyn dros bum mlynedd yn ôl."

Dywedodd Guto nad oedd o'n siŵr am ddefnyddio cadair olwyn, ond erbyn hyn mae'n ei gwerthfawrogi.

"Dw i'n diolch byth bo' fi mewn cadair olwyn achos fyswn i ddim yn gallu symud fel mae pobl eraill yn neud," meddai.

"Mae cadair olwyn fatha Mercedes-Benz i fi dipyn bach dweud y gwir."

Image
Guto Jones
Mae Guto wrth ei fodd yn helpu gyda bob math o weithgareddau yn y ganolfan hamdden, gan gynnwys dosbarthiadau Hyrox

Mae Guto wedi cael cytundeb oriau sero yn y ganolfan hamdden sy'n ei alluogi i weithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau'r haf.

Mae'n cynnal bob math o weithgareddau gan gynnwys campau haf, dosbarthiadau Hyrox a phartïon penblwydd.

Dywedodd ei fam, Llinos Williams, 37, bod Guto wrth ei fodd gyda'r swydd.

"Mi oedd Guto mor hapus o glywed bod o'n cael gwirfoddoli yma 'lly," meddai.

"A pam ddoth o adra o'r trydydd sesiwn a deud bo' nhw wedi cynnig contract iddo fo, oedd o wedi gwirioni ei ben.

"A fel mam mae hynna yn neud fi mor hapus, mae o wrth ei fodd efo chwaraeon a dw i'n teimlo dydi o ddim yn gadael i fod mewn cadair olwyn i stopio fo."

Image
Llinos Williams
Mae mam Guto, Llinos Williams, yn dweud ei bod yn falch o weld ei mab yn hapus

Mae Ms Williams yn dweud bod gweld ei mab yn ffynnu yn cynnig tawelwch meddwl iddi.

"Mi o'n i yn bryderus am ddyfodol Guto, achos mae o'n licio chwaraeon, oedd o isho bod yn footballer proffesiynol," meddai.

"Ac o'n in teimlo ar y pryd bo' fi'n torri ei galon o yn deud fedri di ddim chwarae achos mae'r wheelchair football agosa ata ni yn Wrecsam.

"Ond mae Guto erbyn rŵan yn fwy na bodlon bod o'n cael cyfleoedd mewn hamdden a dysgu plant."

Yn ôl Ms Williams, mae angen mwy o gyfleoedd gwaith ar gyfer pobl ag anableddau.

"Dw i'n meddwl sa ni'n gallu neud mwy fel cymuned i helpu pobl ifanc sydd mewn cadair olwyn neu sydd efo anableddau dysgu," meddai. 

"A dw i mor ddiolchgar bod y gymuned yn Byw'n Iach wedi rhoi'r cyfle yna i Guto i brofi ei hun."

Image
Ffion McKirdy
Yn ôl Ffion McKirdy o Byw'n Iach, mae Guto yn aelod "gwych" or tîm

Dywedodd Ffion McKirdy, dirprwy rheolwr ardal canol Byw'n Iach, eu bod yn awyddus iawn i gefnogi Guto.

"Natho ni feddwl sa fo'n wych i gefnogi hogyn fatha Guto, mae o'n hogyn mor hoffus a 'da ni'n cefnogi fo 100%," meddai.

"Ar ôl gweld ei wên o ar y diwrnod cyntaf, mae hynna jyst 'di neud ni fod isho cadw Guto achos mae o'n wych fel aelod o'r tîm i ni yma yn Byw'n Iach.

"Mae pawb yn nabod o rŵan, mae pawb yn gwbod bod o'n dod nôl erbyn hanner tymor nesa ac mae pawb yn edrych ymlaen i weld Guto."

Ychwanegodd y byddai'r cwmni yn awyddus i gefnogi mwy o bobl trwy'r cynllun gwaith yn y dyfodol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.