Wylfa: Beth yw adweithyddion modiwlar bychain?

SMR Rolls Royce

Mae'r cyhoeddiad y bydd adweithydd modiwlar bychan yn cael ei adeiladu yn Wylfa, Ynys Môn, wedi ei groesawu gan lawer ar yr ynys fore dydd Iau, er bod gwrthwynebiad yn parhau ymysg ymgyrchywr gwrth-niwclear.

Y gobaith yw y bydd y safle yn Wylfa yn darparu trydan i'r grid erbyn canol y 2030au.

Ond beth yn union yw adweithydd modiwlar bychan?

Mae adweithyddion o'r math yma fel arfer yn cael eu hadeiladu mewn ffatrioedd i ffwrdd o'r lleoliad terfynol lle bydd yr ynni yn cael ei greu.

Yn 2024, roedd ynni niwclear yn gyfrifol am gynhyrchu 14% o holl drydan y DU, a gobaith Llywodraeth San Steffan yw cynyddu'r ganran yma yn sylweddol yn y blynyddoedd i ddod.

Ar draws y byd mae dros 80 o wahanol fathau o adweithyddion niwclear bychan yn cael eu datblygu ar hyn o bryd - gyda'r cyntaf yn Rwsia a Tsienia yn cael eu cysylltu gyda'r grid trydan yn 2019 a 2021.

Dadl cefnogwyr yr adweithyddion bychan yw eu bod yn cynnig sefydlogrwydd i wledydd mewn cyfnod o ansicrwydd gwleidyddol - heb yr angen am ddibynu ar wledydd tramor i gyflenwi trydan i'r dyfodol.

Maint

O ran maint, mae modd iddynt greu hyd ar 300 Megawat o drydan, gan gynhyrchu 7.2 miliwn kWh y dydd.

Mae hyn yn fach o gymharu gyda gorsaf niwclear fawr ei maint - fel yr un oedd yn bodoli yn Wylfa'n flaenorol.

Gall gorsafoedd niwclear mawr greu 1,000 Megawat o drydan a chynhyrchu 24 miliwn kWh o drydan y dydd. 

Mae cefnogywr adweithyddion bychan yn pwysleisio nifer o fanteision o gymharu gyda gorsafoedd niwclear mawr. 

Mae rhain yn cynnwys y gallu i gynnig sefydlogrwydd i ddarpariaeth trydan ar y grid cenedlaethol, yr angen am lai o ddŵr i'w hoeri, y gallu i'w cynhyrchu'n rhatach mewn ffatrioedd, a llai o angen am le i'w gosod yn ddaearyddol.

Image
Llun Rolls Royce
Llun Rolls-Royce o adweithydd niwclear bychan

Biliau trydan

Fydd adweithyddion niwclear bychan newydd yn arwain at ostyngiad yn ein biliau trydan? Mae'n anodd ateb y cwestiwn hwnnw gyda'r adweithyddion yn eu dyddiau cynnar o ran datblygiad.

Fe fydd y darlun yn dod yn fwy eglur yn y blynyddoedd nesaf - ond fe fydd yr adweithyddion yn rhatach i'w cynhyrchu na gorsafoedd niwclear traddodiadol.

Elfen arall i'w hystyried i'w gwastraff fydd yn rhaid ei waredu ar ddiwedd y broses o gynhyrchu trydan - a'r gwaddol ymbelydrol sydd ar ôl.

Yn ôl ymgyrchywr gwrth-niwclear, mae'r bygythiad i ddiogelwch mewn unrhyw ddigwydiad ymbelydrol yn ormod o bris u'w dalu yn y ras i ddatblygu adweithyddion newydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.