Cadarnhau y bydd gorsaf ynni niwclear newydd ar Ynys Môn
Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd gorsaf ynni niwclear newydd yn cael ei hadeiladu ar safle atomfa'r Wylfa yn Ynys Môn.
Ond mae ymgyrchwyr gwrth ynni niwclear wedi rhybuddio fod y llywodraeth yn defnyddio Ynys Môn fel "labordy".
Daw’r cyhoeddiad fore Iau yn dilyn cryn ddyfalu dros y dyddiau a'r wythnosau diwethaf y byddai’r safle’n cael ei ddewis i fod yn gartref i un o'r adweithyddion bychan cyntaf yn y DU.
Fe fydd yr orsaf yn cael ei hadeiladu gan sefydliad cyhoeddus Great British Energy - Nuclear (GBE-N), gyda buddsoddiad gwerth £2.5 biliwn gan Lywodraeth y DU.
Mae'r cyhoeddiad yn debygol o hollti barn ar yr ynys, gydag un grŵp ymgrchu yn erbyn ynni niwclear eisoes yn dweud nad yw'r "dechnoleg wedi cael ei brofi".
Mae gwleidyddion lleol wedi dweud eu bod am weithio i sicrhau fod y datblygiad newydd yn "gwasanaethu’r ynys a’i phobl”.
Mae adweithyddion niwclear bychan (SMR) yn orsafoedd niwclear sydd yn dipyn llai o faint na’r arfer, o'u cymharu â gorsafoedd niwclear mwy o faint gan gynnwys yr orsaf Wylfa a adeiladwyd yn y 60au.
Mae'r llywodraeth yn gobeithio bydd y gorsafoedd llai o faint yn y cynhyrchu digon o drydan i bweru hyd at dair miliwn o gartrefi yr un.
Cwmni Rolls-Royce SMR fydd yn gyfrifol am ddylunio’r gorsafoedd, ar ôl i’r cytundebau terfynol gael eu pennu.
Yn ôl Adran Diogelwch Ynni a Sero Net (DESNZ) Llywodraeth y DU fe allai’r cyhoeddiad olygu y gallai hyd at 3,000 o swyddi gael eu creu yn lleol wrth i’r orsaf gael ei hadeiladu.
'Dathlu'
Un sy'n croesawu'r cyhoeddiad yn fawr yw Iolo James, sy'n bennaeth cyfathrebu Cymdeithas y Diwydiant Niwclear yn y DU.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Iolo James: “Y gwir sydd ohoni yw bod angen cymysgedd o ffynonellau ynni glan arnom ni i ddatgarboneiddio ein heconomi a’n gwlad.”
Mae’n dweud fod “heddiw yn ddiwrnod i ddathlu” yn dilyn methiannau gyda chynlluniau blaenorol ar gyfer pŵer niwclear ar yr ynys, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer Wylfa B.
“Mae’n bron i ddegawd ers i’r orsaf gyntaf gau a bron i chwe blynedd bellach ers i Horizon ac Hitachi orffen i fyny ar y safle, felly ‘dan ni ‘di bod yn aros ers ychydig bach o amser ond o’r diwedd mae ‘dan ni ryw fath o gadarnhad,” meddai.
Y dyfodol
Dywedodd mai adweithyddion bychan yw’r flaenoriaeth ar hyn o bryd gan ddweud nad oes cynlluniau i ail-edrych ar orsaf niwclear fawr.
“Mae’r safle yn ddigon mawr i allu rhoi atomfeydd bach a rhai mawr," meddai.
“Ond beth y’n ni’n deall heddiw yw y bydd ‘na dri adweithydd bach yn cael eu hadeiladu ar y safle ar Wylfa a does ‘na ddim mwy o fanylder eto o ran dyfodol gigawatt yr ynys, ond bod y llywodraeth wedi dweud bod nhw’n edrych ar safleoedd eraill ar gyfer atomfeydd mawr.
“Yn y byr dymor o leiaf, yr atomfeydd bach ‘ma fydd yn cael eu hadeiladu."
Mae Mr James wedi dweud ei fod yn awyddus i leddfu pryderon pobl sy’n poeni am beryglon yr atomfa ym Môn, gan gynnwys pryderon am wastraff niwclear.
“Mae’r diwydiant yn deall y dechnoleg yn dda iawn,” meddai. “Ie, hwn yw’r tro cyntaf fydd y rhai bach yma yn cael eu hadeiladu ym Mhrydain ond ‘da ni’n deall yn iawn beth mae hyn yn ei olygu.
“Mae gan y diwydiant record heb ei ail o ran diogelwch yn enwedig gyda’r rhai newydd, bach yma. Felly dwi’n sicr fel diwydiant y bydd y rhai yma yr un mor ddiogel a pob rhan arall o’r diwydiant, a hynny o’r adeiladu i sut ‘da ni’n edrych ar ol y gwastraff hefyd.”
'Fel labordy'
Ond mae gan ymgyrchwyr gwrth-ynni niwclear eu pryderon.
Dywedodd Robat Idris, llefarydd ar ran PAWB wrth Newyddion S4C: "Cam arall ar y llwybr o ffolineb ma' llywodraethau, un ar ôl llall, ym Mhrydain wedi ei ganlyn ydi hwn i bob pwrpas.
"Dydy'r adweithyddion modiwlaidd bychain 'ma ddim mor fychan â hynny yn y lle cynta', a'r ail beth ydy - dydy'r dechnoleg ddim wedi cael ei brofi, y trydydd peth ydi bod yr elfen 'ma o'i gynhyrchu nhw mewn ffatri sydd eto heb gael ei hadeiladu felly y bwriad hyd y gwela i ydi defnyddio Ynys Môn fel labordy ar gyfer rw'bath lasa fynd o'i le."
Ychwanegodd Mr Idris fod gan yr ynys ddigon o ddulliau eraill er mwyn creu ynni naturiol.
"Ma'r deunydd crai ar gyfer ynni yn bodoli yma, be' 'dan ni angan ydy perchnogaeth o ynni sydd yn cael ei gynhyrchu yn gyfrifol a'i berchnogi gymaint â sy'n bosib gan bobl leol," meddai.
"Ma' genna chi'r llanw, ma'r cerrynt yn bodoli trw'r amser, ma' 'na wynt fwy neu lai yn gyson, 'dan ni'n cael digon o haul i gynhyrchu felly rhoi'r petha' 'ma efo'i gilydd a cynllunio lleol, rhesymol, call, a bod y cyfalaf yn aros yn lleol a'r elw yn aros yn lleol, fysa chi wedyn ddim efo Cyngor Sir sydd ar ei gliniau yn ariannol ac yn gorfod crefu am fuddsoddiad allanol gin bobl fatha Rolls Royce."
Mae Mr Idris hefyd yn ansicr ynghylch yr addewid o greu cannoedd o swyddi llawn amser.
"Y bobl ifanc ydi'r rhai sydd wedi cael eu bradychu, efo hanes y cynllun mawr oedd gan Horizon a'r addewid y byddai yna swyddi breision tra fyddan nhw, ma' llawer o'r rheiny wedi gorfod symud i ffwrdd i lefydd fel Hinkley ac yn y blaen," meddai.
"Ar ben hynny, dwi ddim yn gwybod er waetha'r honiad bod y sgiliau niwclear yn bodoli yn lleol, ma'r rhan fwya o'r bobl wedi ymddeol oedd yn gweithio yna neu ar fin gwneud felly dwi'm yn siwr pa mor gywir ydi hynny.
"O ran y niferoedd, ma' be' 'dan ni wedi ei ddarllen am adweithyddion modiwlaidd bychain yn pwysleisio nad yda chi angen gymaint o bobl i'w rhedeg nhw ag oedda chi efo rhei mawr."
'Angen cyflawni'r gwaith'
Mae AS Ynys Môn, Llinos Medi, wedi dweud y byddai’n gweithio i sicrhau bod y datblygiad hwn yn “gwasanaethu’r ynys a’i phobl.”
Dywedodd: “Ers cael fy ethol yn AS dros Ynys Môn, ac yn flaenorol fel arweinydd y cyngor, rwyf wedi gweithio gyda busnesau lleol, arbenigwyr lleol, a’r awdurdod lleol i gyflwyno’r achos dros Wylfa – gan gyfarfod â gweinidogion Llywodraeth y DU, Great British Energy-Nuclear, ac arweinwyr y diwydiant i dynnu sylw at gryfderau unigryw’r safle a dyfnder y gefnogaeth leol.
“Ond rydym wedi bod yma o’r blaen, gyda chyhoeddiadau mawr heb weithredoedd cadarn yn eu dilyn. Felly, er bod newyddion heddiw i’w groesawu, bydd pobl Ynys Môn yn ei drin yn ofalus, sy’n ddealladwy, nes i ni weld amserlenni cadarn ac ymrwymiadau lleol yn cael eu cyflawni.”
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan mai "dyma’r foment y mae Ynys Môn a Chymru gyfan wedi bod yn aros amdani".
“Mae ynni niwclear newydd yn gam i’r dyfodol, gyda swyddi diogel ac ynni diogel wedi’u gwarantu i’r genhedlaeth nesaf," meddai.
'Newid'
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi bod Great British Energy – Nuclear wedi ei rhoi ar waith er mwyn dod o hyd i safleoedd ar gyfer gorsafoedd niwclear fwy hefyd.
Fe fydd y rheiny’n debyg i’r hyn sy’n cael ei hadeiladu yn Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf a Sizewell yn Essex.
Mae disgwyl iddynt gyflwyno eu canfyddiadau yn 2026.
Dywedodd y Prif Weinidog, Syr Keir Starmer: “Roedd Prydain unwaith yn arweinydd byd-eang ym maes pŵer niwclear, ond mae blynyddoedd o esgeulustod ac anweithgarwch wedi golygu bod lleoedd fel Ynys Môn wedi’u siomi ac wedi’u gadael ar ôl.
“Heddiw, mae hynny’n newid.”
Mae disgwyl i’r gwaith o ddatblygu’r orsaf newydd gychwyn yn 2026.
