Dyn o Bwllheli 'heb dderbyn unrhyw gymorth' wedi iddo adael yr ysbyty ar ôl dioddef strôc

Ysbyty Gwynedd / Paul Jenkinson

Mae dyn o Bwllheli yn dweud ei bod yn "warthus" nad yw wedi "derbyn unrhyw gymorth" gan Ysbyty Gwynedd ar ôl derbyn triniaeth am strôc.

Ym mis Chwefror eleni roedd Paul Jenkinson, 52 oed wedi cael ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor ar ôl dioddef strôc.

Hwn oedd ei bedwaredd strôc mewn cyfnod o 15 mlynedd, a bu'n rhaid iddo aros am 17 o oriau yn yr adran achosion brys cyn bod gwely ar gael iddo.

Wedi hynny roedd staff wedi ei osod ar y ward anghywir am dri diwrnod, meddai.

Dywedodd bod gorfod aros mor hir yn "brofiad straenus" a bod mynd i'r ysbyty ers hynny yn rhywbeth sydd yn gwneud iddo ofni am ei fywyd.

"Roedd yr holl gyfnod yn warthus ac roeddwn i mor falch o adael," meddai Paul wrth Newyddion S4C.

"Dwi ofn fy mywyd yn mynd i Ysbyty Gwynedd rŵan, yn enwedig ar ôl treulio 17 awr yn yr adran achosion brys ym mis Chwefror.

"Mae o'n beth brawychus, dioddef efo strôc, ma' nhw'n dod mewn pob ffordd wahanol."

Image
Paul Jenkinson
Cafodd Paul ei osod ar y ward anghywir am dri diwrnod cyn iddo gael ei symud i'r ward cywir, meddai. (Llun: Paul Jenkinson)

'Dim cymorth'

Mae Mr Jenkinson yn byw gyda sawl cyflwr meddygol.

Cafodd ddiagnosis o panhypopituitarism y 25 oed, cyflwr lle nad yw'r corff yn cynhyrchu'r rhan fwyaf o'r hormonau sy'n rheoli llawer o swyddogaethau hanfodol y corff fel metaboledd, tyfu ac atgenhedlu.

O ganlyniad mae golwg Mr Jenkinson yn wael, ac mae wedi ei gofrestru'n ddall. Mae hefyd wedi cael diagnosis o ganser y prostad.

Pan oedd yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty ym mis Chwefror, dywedodd Mr Jenkinson fod y doctoriaid wedi dweud wrtho y byddai'n derbyn gofal a ffisiotherapi ar ôl gadael yr ysbyty.

Ond naw mis ers iddo adael yr ysbyty, nid yw'r bwrdd iechyd wedi cysylltu gydag ef unwaith, meddai.

"Unwaith 'da chi wedi gwella, chi allan o'r ysbyty a dyna fo," dywedodd.

"Does na'm fath o aftercare na recovery na chysylltiad gydag unrhyw un, a dwi'n gweld hynny yn rwbath reit negyddol.

"Pan o'dd y doctoriaid yn dod i siarad efo chdi ar y ward, fe wnaethon nhw ddeud y bydda' 'na aftercare, bod nhw mynd i gysylltu, derbyn pamffledi a hyn a'r llall.

"Oeddwn i fod i dderbyn gofal a physio, ond doeddwn i heb dderbyn unrhyw beth.

"Ar ôl gadael yr ysbyty doedd dim byd. Mi neshi gysylltu efo'r adran gwynion, ond fe ddywedon nhw y byddai'n cymryd rhwng wyth a 12 mis i'w ddatrys."

Mae Llinos Wyn Parry o'r Gymdeithas Strôc yn dweud ei fod yn "hanfodol fod pobl yn derbyn y gofal ar yr adeg cywir" er mwyn cael y cyfle gorau o wella'n llawn ar ôl dioddef strôc.

"Ma’ angan digwydd yn sydyn er mwyn ceisio gael pobl yn ôl i fel oeddan nhw, neu mor agos a phosb i fel oeddan nhw cyn iddyn nhw gael y strôc," meddai.

'Pryderon'

Dywedodd Tehmeena Ajmal, Prif Swyddog Gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, eu bod yn "awyddus i sicrhau bod pob un o'n cleifion yn cael y cymorth" sydd ei angen arnynt.

“Mae’n ddrwg gennym glywed bod Mr Jenkinson yn teimlo’n anfodlon ar y gofal a’r cymorth a dderbyniodd yn dilyn ei strôc," meddai.

"Rydym yn awyddus i sicrhau bod pob un o’n cleifion yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt yn ystod eu hadferiad, a byddem yn annog Mr Jenkinson i gysylltu â ni’n uniongyrchol fel y gallwn edrych i mewn i’w bryderon yn fanylach ac i gael deall pa gymorth pellach allai fod ei angen arno.

“Oherwydd cyfrinachedd cleifion, ni allwn rannu unrhyw fanylion am ofal Mr Jenkinson na sôn p’un a oedd angen unrhyw ôl-ofal. 

"Nid oes gennym unrhyw gofnod o fod wedi derbyn cŵyn ganddo, ond byddem yn awyddus i siarad ag ef er mwyn sicrhau bod modd mynd i’r afael ag unrhyw broblemau yn briodol.”

Image
Ysbyty Gwynedd
Ysbyty Gwynedd ym Mangor. Llun: Google

'Methu dianc'

Mae'r rhan fwyaf o bobl sydd yn dioddef strôc yn profi newid emosiynol neu mae eu hymddygiad yn newid, meddai'r Gymdeithas Strôc.

Fe allai hyn gynnwys gorbryder, iselder, dicter a rhwystredigaeth.

Cyn i Mr Jenkinson ddioddef ei bedwaredd strôc ym mis Chwefror, roedd yn dechrau'n teimlo'n llai pryderus ac isel.

Ond erbyn hyn mae'n teimlo nad yw'n "gallu dianc" rhag ei gorff a'i fod yn ofni pryd ddaw'r strôc nesaf.

"Dydi peidio gwybod pryd ma'r un nesaf yn dod yn deimlad ofnadwy," meddai.

"Yr unig amser mae gen i lonydd gan y meddyliau ydi pan dwi'n cysgu. Unwaith dwi'n deffro dwi'n meddwl 'pryd ma'r strôc nesaf mynd i ddigwydd?'

"Dwi'n teimlo fy mod i'n sownd yn y corff yma a methu dianc, does dim byd dwi'n gallu gwneud.

"Mae'r ochr iechyd meddwl o ddioddef strôc ddim yn cael ei drafod digon, ac mae angen newid hynny."

Image
Paul Jenkinson
Dioddefodd Paul ei strôc gyntaf yn 2010. (Llun: Paul Jenkinson)

 

Fe ychwanegodd Llinos Wyn Parry o'r Gymdeithas Strôc bod iechyd meddwl yn "broblem gudd" ymysg goroeswyr strôc.

"Ma’ strôc yn cael effaith mawr ar iechyd meddwl, ma' 47% yn dweud eu bod yn dioddef gydag iselder ar ôl cael strôc," meddai wrth Newyddion S4C.

"Ma' nifer helaeth o oroeswyr yn poeni bod nhw mynd i gael strôc arall ac felly’n hel meddyliau ac yn sgil hynny cael eu heffeithio.

"Ma' pobl yn meddwl bod eu bywyda’ nhw ar ben ac mae’n gallu rhoi pwysau ar berthynas nhw efo pobl hefyd.

"Dyma’r elfen fwyaf o ran problemau cudd ar ôl cael strôc ac mae angen mwy o sylw iddo fo a buddsoddiad er mwyn i bobl derbyn y cymorth ma' nhw angen."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.