Ffliw adar: Rheolau newydd yn dod i rym yng Nghymru

Ieir / Dofednod

Mae rheolau newydd wedi dod i rym ddydd Iau i bobl sy’n cadw dros 50 o ddofednod neu adar caeth yng Nghymru.

Mae’n golygu bod rhaid cadw'r adar dan do wrth i fesurau gael eu cyflwyno i atal ffliw adar rhag lledu ymhellach.

Bydd rhaid i berchnogion llai na 50 o ddofednod neu adar caeth eu cadw dan do os ydyn nhw’n bwriadu gwerthu'r wyau neu’r adar.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y mesurau o ganlyniad i "fygythiad sylweddol uchel" o ffliw adar ledled Prydain. 

Nos Sul cyhoeddodd y llywodraeth fod math pathogenig iawn o ffliw adar wedi ei gadarnhau ger y Trallwng ym Mhowys, ac mae adroddiadau bod achosion yn Llyn Padarn yng Ngwynedd ac yn Sir Benfro yn ddiweddar hefyd.

Mae parthau rheoli ffliw adar hefyd yn eu lle yng Nghynwyd yn Sir Ddinbych, a ger Aberdaugleddau yn Sir Benfro, yn ôl yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.

Risg ar gynnydd

Wrth gyhoeddi’r newid ddydd Mawrth, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Faterion Gwledig, Huw Irranca-Davies:  "Rydym yn cadw golwg ar y mesurau sydd eu hangen. 

“Ers i'r Parth Atal Ffliw Adar gael ei gyflwyno ddechrau'r flwyddyn, mae risg y clefyd wedi cynyddu eto yn ddiweddar, ac mae Cymru bellach yn wynebu risg uchel iawn o ffliw adar. 

"Nid ydym wedi gwneud y penderfyniad ar chware bach, ond mae'n angenrheidiol i ddiogelu ein hadar a bywoliaeth ceidwaid dofednod Cymru. 

"Rwy'n annog pob ceidwad adar i gydymffurfio â'r gofynion hyn a chynnal y safonau biodiogelwch uchaf. Rwy'n cydnabod y bydd hyn yn anodd, ond trwy weithredu nawr gallwn helpu i atal y clefyd rhag lledaenu ac amddiffyn ein heidiau." 

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Richard Irvine: "Rydym yn gweld cynnydd sydyn yn nifer yr achosion o ffliw adar mewn adar cadw ac adar gwyllt. 

"Yn wyneb y lefelau risg uchel iawn presennol, rydym bellach yn cyflwyno mesurau gorfodol i gadw adar dan do, a fydd yn effeithio ar Gymru gyfan. 

"Rwy'n gwerthfawrogi'r effaith y mae'r mesurau hyn yn ei chael ar geidwaid, ac rwy'n parhau i fod yn ddiolchgar am eu cydweithrediad i ddiogelu iechyd a lles eu hadar. 

"Gall mesurau hyn i gadw adar dan do helpu i amddiffyn adar rhag y clefyd, ond ni ddylent gymryd lle hylendid a bioddiogelwch llym."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.