Yr Unol Daleithiau yn ‘hynod siomedig’ gyda chynlluniau Wylfa
Mae penderfyniad llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer adeiladu adweithydd modiwlar bychain yng Nghymru yn “hynod siomedig” yn ôl llywodraeth yr Unol Daleithiau.
Dywedodd llysgennad UDA i’r Deyrnas Unedig, Warren Stephens (uchod), ei fod wedi gobeithio am ddyfodol gwahanol i safle Wylfa ar Ynys Môn.
Daw ei sylwadau wedi adroddiadau bod cwmni o’r Unol Daleithiau, Westinghouse, wedi cyflwyno cynlluniau i Lywodraeth y DU i adeiladu gorsaf mwy o faint ar y safle.
Dywedodd Mr Stephens fod “opsiynau rhatach, cyflymach ac eisoes wedi’u cymeradwyo i ddarparu ynni glân a diogel yn yr un lleoliad”.
“Rydym yn hynod siomedig gan y penderfyniad hwn,” meddai.
Ychwanegodd: “Os mai’r nod oedd rhoi rhawiau yn y ddaear cyn gynted â phosibl a chymryd cam mawr wrth fynd i’r afael â phrisiau ac argaeledd ynni, mae llwybr gwahanol ar gael.
“Rydym yn edrych ymlaen at benderfyniadau cyn bo hir ar brosiectau niwclear ar raddfa fawr.
“Fel yr wyf wedi’i ddweud dro ar ôl tro, rydym am i’r DU fod y cynghreiriad cryfaf posibl i’r Unol Daleithiau, ac mae costau ynni uchel yn rhwystr i hynny.”
'Synhwyrol'
Mae disgwyl y bydd adweithydd niwclear modiwlaidd bach (SMR) cyntaf y DU yn cael ei osod ar safle Wylfa, wedi ei ddylunio gan gwmni Prydeinig Rolls-Royce SMR.
Mae adweithyddion modiwlaidd bach yn orsafoedd pŵer niwclear llai, wedi’u cynllunio i’w gosod ar y safle fel modiwlau parod.
Y gobaith yw y bydd y dechnoleg yn gyflymach i'w hadeiladu na gorsafoedd mwy fel Hinkley Point C.
Wrth ysgrifennu ym mhapur newydd y Daily Telegraph dywedodd Ysgrifennydd Ynni y DU, Ed Miliband, bod niwclear yn rhoi’r cyfle i’r DU sicrhau bod ganddi “sofraniaeth” dros ei hadnoddau ynni.
Roedd angen hynny “ar bob cenedl synhwyrol yn yr 21ain ganrif,” meddai.
“Bydd olew a nwy o Fôr y Gogledd yn parhau i chwarae rhan am ddegawdau i ddod, ond nawr yw’r amser i adeiladu ein hadnoddau pŵer glân,” meddai.
“Rwy’n credu’n gryf na allwn gael gwlad ddiogel a ffyniannus heb y sofraniaeth a’r digonedd y mae ynni glân yn eu cynnig.”
Llun: Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Llundain.
