Arweinydd Cyngor Gwynedd: 'Hyd at ddegawd i adennill ffydd'
Arweinydd Cyngor Gwynedd: 'Hyd at ddegawd i adennill ffydd'
Mae arweinydd Cyngor Gwynedd wedi dweud wrth Newyddion S4C y gall gymryd "hyd at ddegawd" i bobl "ennill ffydd ac i hyder ddychwelyd" i'r cyngor, yn sgil adroddiad damniol, i sut wnaeth y cyngor ddelio gyda chwynion yn erbyn y pedoffeil a'r cyn-brifathro, Neil Foden.
Daw'r cyfweliad dros wythnos ers i'r adolygiad diogelu plant i droseddau Foden ddatgelu fod dros 50 o gyfleoedd i atal y pedoffeil wedi eu methu gan yr awdurdod lleol.
Cyngor Gwynedd oedd ar fai am fwyafrif o'r methiannau, ac mae'r cyngor wedi ymddiheuro, ac wedi addo mynd i'r afael â phob un o'r argymhellion yn yr adroddiad, gydag arweinydd y cyngor yn barod i lywio’r awdurdod yn wyneb un o stormydd mwyaf yn eu hanes.
“Mae ffydd yn zero yn Cygnor Gwynedd ar hyn o bryd, mae o am gymryd degawd neu fwy i adfer ffydd y cyhoedd ond mae 'na gynlluniau mewn lle i edrych ar hyn,“ meddai'r Cynghorydd Nia Jeffreys, sydd wedi bod yn arwain y cyngor ers 2024.
"Roedd o [Foden] yn defnyddio pob tacteg, tacteg hyll o fwlio, grooming a dan yr wyneb a pobl wnaeth sefyll i fyny oedd y dioddefwyr a goreoswyr. A nhw dwi meddwl amdan.
"Dwi weid gwneud fy ymchwiliadau a mae hynny yn glir, dwi wedi rhoi bwrdd ymateb mewn lle a dwi'n gaddo rŵan dwi am weithredu ar yr adroddiad anodd yma a dwi am rhoi pethau mewn lle fel nad ydi hyn ddim yn digwydd eto." Ychwanegodd Ms Jeffreys.
Pan ofynwyd wrth y Cynghorydd Jeffreys os oedd unrhyw aelod o staff y cyngor yn wynebu camau disgyblu yn sgil cyhoeddi'r adroddiad, dywedodd nad oedd yn gallu trafod unrhyw achosion yn ymwneud â threfn disgyblu'r awdurdod ar y mater.
“Dwi 'di dweud fedrai ddim troi fy nghefn ar hyn, dwi yn derbyn yr adroddiad yn llawn.
"Y peth anodd yw cymryd y cyrifoldeb a gwneud y gwaith. A dyna beth dwi am ei wneud" ychwanegodd.