O leiaf pedwar wedi marw mewn ymosodiad yn eglwys Michigan
Mae o leiaf pedwar o bobl wedi marw ac wyth arall wedi eu hanafu ar ôl i ddyn yrru cerbyd mewn i eglwys ym Michigan, UDA, saethu pobl a rhoi'r eglwys ar dân.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ddydd Sul yn Grand Blanc, dinas 60 milltir i'r gogledd orllewin o Detroit.
Roedd cannoedd o bobl yn yr eglwys ar gyfer gwasanaeth dydd Sul.
Cafodd y dyn mae'r heddlu yn amau oedd yn gyfrifol ei saethu yn farw gan yr heddlu ym maes parcio'r eglwys yn ddiweddarach.
Mae'r heddlu wedi enwi'r dyn sef Thomas Jacob Sanford.
Fe wnaeth Sanford ddreifio cerbyd tuag at ddrysau ffrynt yr eglwys cyn dechrau saethu meddai'r heddlu.
Wedyn fe adawodd ei gerbyd a dechrau saethu'r dorf cyn rhoi'r adeilad ar dân.
Mae'r tân erbyn hyn wedi ei ddiffodd ond mae'r awdurdodau wedi dweud eu bod yn disgwyl darganfod mwy o gyrff.
Dyw cymhelliad yr ymosodiad "ddim yn glir" ar hyn o bryd ond mae'r heddlu yn dweud eu bod yn ymchwilio'r digwyddiad fel "gweithred o drais wedi ei dargedu".